Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

teitl cynhadledd


Cynhaliwyd cynhadledd i diwtoriaid Cymraeg i oedolion yn CBAC ar 2 Rhagfyr 2011. Daeth dros 100 o diwtoriaid ynghyd i glywed sgyrsiau a mynychu gweithdai ar y thema ‘Creu Siaradwyr Cymraeg’. Y prif siaradwr gwadd oedd Michael McCarthy, Athro Emeritws o Brifysgol Nottingham, arbenigwr ar ddysgu Saesneg fel ail iaith sydd wedi darlithio ar faes Ieithyddiaeth Gymhwysol dros y byd, ac sy’n frodor o Gaerdydd. Testun ei sgwrs oedd defnyddio data o gorpora ieithyddol er mwyn gwella ein adnoddau dysgu a’n dealltwriaeth o’r iaith lafar.

athro McCarthy

Yn ogystal â’r Athro McCarthy, siaradodd Emyr Davies, Swyddog Arholiadau CBAC, am bwysigrwydd diffinio lluniad yn seiliedig ar fodel cyfathrebol, ac am bwysigrwydd diffinio ‘lefel’ yn glir. Cafwyd gweithdai niferus i’r cynadleddwyr: un gan yr Athro McCarthy yn dadansoddi enghreifftiau o ddata;  cynhaliwyd gweithdy gan Mandi Morse a Maldwyn Pate ar y Moodle newydd i faes Cymraeg i oedolion, sef ‘Y Bont’; cafwyd gweithdy gan Emlyn Penny Jones (S4C) a Nefydd Thomas (ACEN) ar ddefnyddio rhaglenni S4C yn y dosbarth; Hefyd, bu Elin Meek yn arwain gweithdy ar loywi iaith ar lefel uchel.

Yn y prynhawn, cafwyd sesiwn ar y dangosyddion i’r gweithle gan Glenda Brown, project y mae CBAC yn rhan ohono; bu Diarmait MacGiollaChriost o Brifysgol Caerdydd yn siarad am yr ymchwil i’r modd y trosglwyddir y Gymraeg i oedolion; cafwyd sesiynau gan Owen Saer ar Gymraeg i’r Teulu, a chan Helen Prosser o ganolfan Morgannwg ar ddefnyddio Cardiau Fflach CBAC. I gloi’r gynhadledd daeth Ann Jones, sy’n arwain y sector Cymraeg i oedolion yn Estyn i siarad am drefn arolygu’r maes, gan dynnu sylw at y cwestiynau allweddol.

Diolch i Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC, am agor y gynhadledd ac i bawb a’i gwnaeth yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn.

Darllenwch ymlaen i weld rhaglen lawn y gynhadledd ac i gael mwy o wybodaeth am y sesiynau.

amserlen cynhadledd

 

Gwybodaeth ychwanegol am y sesiynau

llinell

1. Michael McCarthy  (Athro Emeritws Prifysgol Nottingham mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol; awdur dros 40 o lyfrau am ddysgu Saesneg fel ail iaith; darlithydd ar ddysgu iaith ac ieithyddiaeth gymhwysol dros y byd ers 45 mlynedd. Mae’n frodor o Gaerdydd). Cynhaliwyd y sgwrs hon a’r gweithdy trwy gyfrwng y Saesneg.

Developing Speaking Skills
Erbyn hyn mae gennym sawl corpws o iaith lafar bob dydd sy’n ein galluogi i ddeall yn well sut byddwn ni’n cyfathrebu â’n gilydd ar lafar. Yn y sgwrs hon, edrychwyd ar rai canfyddiadau sylfaenol sy’n deillio o’r corpws yn ymwneud â chydsgwrsio wyneb yn wyneb, yn enwedig sgwrsio anffurfiol, ac yn fwy penodol, rôl y gwrandäwr - rhywbeth sydd heb gael llawer o sylw hyd yn hyn. Yna, aethpwyd ymlaen i edrych ar yr her o greu maes llafur yn seiliedig ar bedair brif agwedd ar sgwrsio pob dydd.  Gwelwyd bod gwell dealltwriaeth o iaith lafar yn gallu ein helpu i hybu sgiliau siarad ymysg ein dysgwyr. Edrychwyd ar rai gweithgareddau dosbarth y gellir eu dyfeisio gan herio’r safbwyntiau cyfredol am yr hyn a olygir wrth ruglder llafar.

Working with the spoken language
Roedd y gweithdy’n edrych ar enghreifftiau o ddata sgyrsiol (yn Saesneg yn yr achos hwn), a gweld pa ganfyddiadau a gawn am gyfathrebu dynol mewn unrhyw iaith. Cafwyd gorolwg o ddwy brif sgìl iaith: bod yn siaradwr rhugl ac yn wrandäwr gweithredol. Cafodd y rhai a fynychodd y gweithdy gyfle i weithio â samplau o sgyrsiau naturiol wedi eu recordio, i rannu eu profiadau fel tiwtoriaid ac i awgrymu ffyrdd o ddefnyddio’r canfyddiadau a gafwyd o’r data yn y dosbarth ac mewn adnoddau a thasgau i ddysgwyr.

llinell

2. Emyr Davies (Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC)

Diffinio siarad a diffinio lefelau
Roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio’n bennaf ar sut mae diffinio siarad, a sut mae gwahaniaethu rhwng lefelau, gan gyfeirio at fodel theoretig a gofynion ALTE. Edrychwyd ar bwysigrwydd siarad i’r maes ac ar sut yr amlygir ein dealltwriaeth o siarad wrth asesu.

llinell

3. Mandi Morse (Swyddog Adnoddau Cymraeg i Oedolion CBAC) a Maldwyn Pate (Swyddog Hyfforddi Moodle Cymraeg i Oedolion CBAC)

Defnyddio’r Moodle newydd
Mae Moodle yn blatfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion, project y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’n helaeth ynddo. Bydd hwn yn dod yn lle Y Tiwtor fel llwyfan i rannu gwybodaeth i diwtoriaid, ond hefyd yn cynnig lle i ddysgwyr gael gwybodaeth, adnoddau, ac i rwydweithio. Roedd y sesiwn yn edrych ar y posibiliadau a gynigir gan Moodle i’r maes.

llinell

4. Elin Meek (Cyfieithydd llawrydd, addasydd llyfrau ac awdur deunyddiau dysgu)

Gloywi iaith tiwtoriaid
Yn y sesiwn hon, edrychwyd ar rai problemau cyffredin wrth dreiglo, er mwyn gwella iaith tiwtoriaid. Cafwyd tasgau i’w cwblhau ar dreiglo ar ôl ‘yn’, treiglo yng nghyd-destun cenedl enwau a phroblemau cyffredin eraill.

llinell

5. Emlyn Penny Jones (Pennaeth Gwasanaethau Cynnwys S4C) a Nefydd Prys Thomas (Prif Weithredwr ACEN)

Defnyddio rhaglenni teledu S4C fel adnodd pellach
Cwyn gan nifer o ddysgwyr yw’r diffyg cyfle i glywed yr iaith Gymraeg yn rheolaidd. Edrychwyd ar wneud defnydd o raglenni teledu i helpu’r dysgwr yn y cartref mewn sefyllfa y maen nhw’n hollol gyfforddus ynddi, gan ddefnyddio’r teledu a’r cyfrifiadur. Roedd hyn yn berthnasol i ddysgwyr ar wahanol lefelau.

llinell

6. Diarmait MacGiollaChriost (Darllenydd, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd)

Ymchwil i wella’r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion: canfyddiadau cychwynnol
Roedd y sesiwn yn rhoi amlinelliad o’r project ymchwil hwn, yn sôn am y gwaith maes, ac yn ymdrin â rhai canfyddiadau cychwynnol. Yna, edrychwyd ar y camau nesaf.

llinell

7. Glenda Brown (Swyddog Asesiadau yn y Gweithle CBAC)

Dangosyddion i’r gweithle
Mae AdAS (Llywodraeth Cymru) yn arwain project mawr a fydd yn gymorth wrth gynllunio Cymraeg yn y gweithle. Bydd y dangosyddion hyn ar-lein yn cynnig (a) canllaw i reoli adnabod pa swyddi sydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, a (b) i roi arwydd o lefel iaith unigolion. Roedd y gweithdy’n edrych ar gefndir y project ynghyd ag enghreifftiau penodol.

llinell

8. Owen Saer (Swyddog Datblygu Cymraeg i’r Teulu, Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg)

Cymraeg i’r Teulu
Cyflwynwyd ail hanner cwrs Cymraeg i’r Teulu yn y sesiwn hon, gan edrych ar unedau 31-45 yn benodol. Roedd y sesiwn yn addas i diwtoriaid sy’n dysgu cyrsiau Mynediad Rhan 2 eleni a phawb sydd â diddordeb yn y maes hwn.

llinell

9. Helen Prosser (Pennaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg)

Defnyddio Cardiau Fflach CBAC
Yn sgil llwyddiant Cardiau Fflach 1 a 2, comisiynwyd CBAC i gynhyrchu Cardiau Fflach 3 a Chardiau Bach 3, yn cynnwys nifer o themâu newydd. Roedd y sesiwn yn cyflwyno ffyrdd difyr o ddefnyddio’r cardiau hyn a’r cardiau eraill yn y dosbarth i hybu siarad.

llinell

10. Ann Jones (Arolygydd Arweiniol Cymraeg i Oedolion, Estyn)

Cymraeg i Oedolion a’r Arolygaeth - Edrych i’r Dyfodol
Roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar y themâu allweddol y mae Estyn yn edrych arnynt wrth arolygu. Soniwyd am gefndir y fframwaith newydd a’r hyn y bydd arolygwyr yn chwilio amdano wrth arsylwi gwersi a sgwrsio gyda dysgwyr.

llinell

Diolch i’r siaradwyr i gyd am eu parodrwydd i gyfrannu i’r gynhadledd.

 

llinell