Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

asesu sgiliau Cymraeg y gweithle

Wel, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn fwrlwm wrth i ni gyrraedd rhifyn ola’r Tiwtor. Mae’n amlwg, gyda gwefan newydd ‘Y Bont’ (y Moodle) ar fin ei lansio a’r datblygiadau ym maes Cymraeg yn y Gweithle, fod galw mawr am fwy o wybodaeth ar-lein.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r wefan ‘Cymraeg y Gweithle’ (erfyn diagnostig) wedi carlamu yn ei flaen yn ddiweddar. Pleser oedd gweld Fusionworkshop (y cwmni TG) yn cyflwyno strwythur y wefan i ni cyn y Nadolig, ar ôl misoedd o gyfarfodydd a thrafod yr anghenion. Mae’r adborth cychwynnol wedi bod yn galonogol iawn.   

llun sgiliau 1

Erbyn hyn, mae’r gwaith yn symud yn ei flaen gyda chynnwys y tudalennau yn cael ei lwytho yn ogystal â’r cwestiynau a fydd yn profi’r pedair sgìl; siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu. Os cofiwch chi, profir sgiliau darllen ac ysgrifennu drwy ddefnyddio technegau profi addasol gyda’r canlyniadau ar gael yn syth ar ôl i unigolyn orffen ei asesiad. Profir sgiliau ysgrifennu a siarad gan ddefnyddio aseswyr allanol, felly os oes diddordeb gan unrhyw diwtor profiadol mewn bod yn aseswr ar y prosiect hwn, mae croeso i chi gysylltu!

llun sgiliau 12

Amser a ddengys beth fydd yr adborth unwaith caiff y wefan ei lansio’n swyddogol yn ystod y misoedd nesaf ar gyfer y cyfnod peilot. Gobeithio y bydd gweithleoedd yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yn gwneud defnydd mawr ohono ac yn gweld budd o’i ddefnyddio wrth geisio cynllunio sgiliau ieithyddol eu gweithlu er mwyn cynnig gwasanaethau dwyieithog.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect, codwch y ffôn neu e-bostiwch Glenda.brown@cbac.co.uk / 02920 265348.

 

llinell