
Cynhaliwyd cyfarfod Tachwedd eleni yn Bochum, Yr Almaen. Roedd dydd Llun a dydd Mawrth yn hyfforddiant i sefydliadau er mwyn cael awdit, sef proses gwarantu ansawdd ALTE. Bydd yr arholiadau Cymraeg i oedolion yn derbyn awdit eto yn 2012. Gellir cael hyd i wybodaeth am weithdrefnau’r awdit, a’r 17 o safonau y seilir yr awdit arnynt, ar wefan ALTE. Aethpwyd i ddiwrnod hyfforddi i’r rhai sy’n derbyn yr awdit a’r rhai sy’n cynnal yr awdit.
Neilltuwyd dydd Mercher ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor gwaith a chyfarfodydd grwpiau diddordeb arbennig. Ymhlith y materion gweinyddol a drafodwyd yn y pwyllgor gwaith oedd y syniad o ddyfarnu gradd ‘Q’ i arholiadau sydd wedi mynd drwy’r broses awdit yn llwyddiannus a chwrdd â phob un o’r safonau. Hefyd, trafodwyd cyfansoddiad ALTE a statudau’r pwyllgor gwaith a’r pwyllgor awdit yn fanwl a bydd y rhain i’w gweld ar y wefan y flwyddyn nesaf.
![]()
Grwpiau diddordeb penodol
Cyfarfu grŵp y Cod Ymarfer ar y prynhawn dydd Mercher. Roedd hyn yn gyfle i drafod gweithdrefnau ar gyfer asesu awditwyr. Cafwyd cryn drafodaeth ar ddulliau asesu gwahanol: adborth gan sefydliadau, adborth gan y Pwyllgor Gweithredol, hunan-werthusiad, asesiad cymheiriaid. Cytunwyd bod y rhain i gyd yn werthfawr, ac nad oedd y pwll o awditwyr yn ddigon mawr i ystyried sefydlu cymhwyster penodol. Bu trafod pellach ar y ddogfen ‘Principles of Good Practice’ sydd gan ALTE, chwaer gyfrol i’r ddogfen Manual for Language Test Development and Examining.
![]()
Gweithdy
Cynhaliwyd gweithdy ar brofi sgiliau integredig gan yr Athro Gillian Wigglesworth o Melbourne, Awstralia. Nod y gweithdy hwn oedd dadansoddi un enghraifft o dasg integredig Gwrando-Siarad yn fanwl. Roedd y dasg wedi ei sgriptio a’i recordio’n benodol (nid o raglen ddilys), ac yn gosod sefyllfa rhaglen radio lle roedd cyfranwyr yn rhoi safbwyntiau gwahanol. Testun y sgwrs oedd sefydlu ardal lleihau traffig ynghanol dinas. Y dasg i’r rhai yn y gweithdy oedd gweithredu’r cynllun marcio ar ôl gwrando ar chwe ymgeisydd yn ‘cynhoi’r drafodaeth i ffrind’. Er bod disgrifyddion i raddio ansawdd yr iaith ar gael (cywirdeb, ystod ac ati), canolbwyntiwyd ar asesu’r cynnwys. A oedd yr ymgeiswyr wedi crynhoi’r pwyntiau pwysig ac eilaidd i gyd? Gwnaed nifer o sylwadau gan y grŵp: roedd 16 o bwyntiau cynnwys yn ormod; roedd yr ymgeiswyr (a’r aseswyr) yn ystyried pob pwynt a godwyd yn rhan o’r cynnwys, felly nid crynhoi roedd ei angen; roedd y dasg yn gofyn am nifer o sgiliau gwybyddol, anieithyddol, e.e. y gallu i gofio, i ddethol, i gasglu beth oedd prif destun y sgwrs ac yn y blaen. Roedd rhai o’r farn nad oedd y dasg yn un ddilys iawn, hynny yw, nid oedd y dasg yn adlewyrchu’r hyn sy’n debygol o godi yn y byd real. Bu llawer o feirniadu, ond cafwyd trafodaeth fuddiol yn ei sgil.
![]()
Diwrnod y Gynhadledd
Mae dydd Gwener cyfarfodydd ALTE fel arfer yn ddiwrnod cynadleddoedd agored, ac roedd nifer o athrawon ac eraill o’r Almaen a oedd â diddordeb mewn asesu wedi dod yn benodol i hwn. Fe’i cynhaliwyd ym Mhrifysgol y Ruhr, Bochum. Dyma grynhoi rhai o sylwadau tri o’r prif siaradwyr.
Cyril Weir: Criterial contextual parameters within a socio-cognitive framework for language test development and validation.
Roedd Cyril yn siarad am y fframwaith cymdeithasol-gwybyddol, gan ganolbwyntio ar sut mae mesur cymhlethdod testun darllen. Mae nifer o fynegeion yn gallu bod yn arwydd o ba mor anodd yw’r darn: nifer cyfartalog y sillafau mewn gair (h.y. geiriau hirach = testun anos), nifer y geiriau unigryw, dwyster (nifer y geiriau concrid yn erbyn nifer y geiriau haniaethol), amlder y geiriau, nifer y geiriau concrid ac wrth gwrs, hyd y darn. Mae geiriau cyffredin yn cael eu prosesu’n gynt na geiriau anghyffredin. Mae’r paramedrau hyn i gyd yn gallu effeithio ar y ‘llwyth gwybydddol’, sef yr hyn y mae’n rhaid i’r meddwl ei wneud y tu hwnt i’r gofynion ieithyddol. Un o’r rhagwelyddion gorau ar gyfer hyn yw nifer y geiriau academaidd; po fwyaf y geiriau academaidd, yna’r mwyaf anodd y bydd y testun. Mae’n llawer mwy anodd defnyddio paramedrau fel ‘cydlynedd’ (cohesion) ar gyfer mesur cymhlethdod testun, a gwahaniaethu rhwng lefelau. Mae modd defnyddio rhaglen Microsoft Word i fesur rhai o’r nodweddion hyn mewn testun electronig - nifer y geiriau, cymedr nifer y geiriau mewn brawddeg ac ati - ac roedd Cyril yn argymell y dylai llunwyr eitemau wneud hynny’n rheolaidd.
Byddai’n ddiddorol edrych ar nodweddion ieithoedd eraill fel arwydd o gymhlethdod, e.e. ydy ffurfiau treigledig yn fwy anodd na ffurfiau cysefin yn Gymraeg? I ddysgwyr yr Almaeneg, ydy morffoleg cymhleth yr iaith honno (geiriau hirfaith) yn effeithio ar ddealltwriaeth?
![]()
Evelina Galaczi: Investigating the context validity of speaking tests: What insights can a socio-cognitive framework provide?
Roedd y siaradwr hwn yn sôn am brofion siarad yng nghyd-destun dilysrwydd. Beth mae’n rhaid ei wneud i sicrhau bod y profion siarad yn ddilys (valid)?
- Dylid sicrhau bod amrywiaeth o fformatau ymateb ar gael, gan fod pobl yn ymateb yn well i rai na’i gilydd.
- Mae dewis y fformatau’n dibynnu ar bwrpas cyffredinol y prawf.
- Dylai’r pwrpas fod yn glir ac yn ddiamwys, ac yn addas i’r lefel.
- Dylid rhoi amser priodol i gyflawni’r dasg.
Ydy amser paratoi/cynllunio’n effeithio ar berfformiad yr ymgeisydd? Yn ôl yr ymchwil, mae paratoi’n helpu rhuglder, ond nid yw’n effeithio ar gywirdeb na chymhlethdod y testun a gynhyrchir. Os oes tasg sy’n gymhleth o’r safbwynt gwybyddol, mae angen amser paratoi. Yn arholiadau Saesneg Caergrawnt, nid yw’r ymgeisydd yn cael amser paratoi o gwbl, dim ond ychydig eiliadau i ddarllen neu ymgyfarwyddo â’r sbardun. Mae ystyriaethau eraill: ydy’r gofynion yn haniaethol/concrid? Ydy’r dasg yn gofyn am wybodaeth bersonol neu bethau amhersonol? Rhaid bod yn ofalus wrth osod testunau siarad: (a) sy’n addas i bob diwylliant; (b) sydd ddim yn mynd i achosi cynnen na gofid i ymgeiswyr; (c) sydd ddim yn mynd i ddyddio’n gyflym; (ch) sydd yn debygol o sbarduno digon o iaith. Mae modd addasu testunau i lefelau gwahanol, e.e. gall ymgeiswyr lefel A2 drafod eu hoff bwnc yn yr ysgol, ond gellir disgwyl i ymgeiswyr C2 allu trafod polisi addysg. Codwyd nifer gwestiynau y dylid eu hystyried wrth gynllunio’r profion siarad.
![]()
Thomas Eckes: Facets of Context Validity: Examining Rater Effects in Writing and Speaking Performance Assessments
Testun Thomas Eckes, sy’n gweithio i TestDaf, oedd rater effects, neu’r ffactorau sy’n debygol o effeithio ar farcwyr y profion siarad neu ysgrifennu:
- llymder/haelioni - dyma’r mwyaf cyffredin
- y duedd i farcio’n ganolog (canol y raddfa, heb ddefnyddio’r ystod lawn)
- yr halo effect - bod un maen prawf yn rheoli’r lleill
- rhagfarn - barn benodol am un o’r meini prawf, neu ragfarn yn erbyn grŵp o ymgeiswyr
Sut mae delio â’r broblem hon felly? Yr atebion arferol yw hyfforddi’r marcwyr, mesur dibynadwyedd rhwng y marcwyr neu o fewn marciwr unigol, cyfnewid marcwyr, cyfarwyddo â’r broses, ymarfer marcio, defnyddio meincnodi (enghreifftiau parod), adborth a thrafod. Mae cyfuniad o’r rhain yn gallu helpu, eto mae tuedd gan farcwyr i ganfod ‘beth sy’n dderbyniol’ yn eu ffordd eu hunain. Gellir ceisio atebion mwy radical, e.e. defnyddio parau o ymgeiswyr a gofyn i farcwyr ddweud pa un sydd orau, neu ddefnyddio marcwyr cyfrifiadurol. Mae’r ddwy ffordd yn gostus, ac mae amheuon am allu cyfrifiadur i fesur siarad mewn ffordd ddilys, hyd yn oed yn Saesneg.
Roedd Eckes yn awgrymu ffyrdd traddodiadol, e.e. amcangyfrif pa mor hael/llym yw’r marciwr, addasu marciau’r ymgeisydd, adnabod effeithiau eraill ar y marcwyr, gweithdrefnau manwl ar gyfer monitro ansawdd, a rhoi adborth. Mae marcwyr yn amrywio, e.e. mae ganddynt strategaethau gwahanol ar gyfer dod i benderfyniad, ac maen nhw’n hoffi canolbwyntio ar feini prawf gwahanol. Ei gasgliadau oedd:
- y bydd marcio gan fodau dynol yn para!
- bod effeithiau’r marcwyr yn fater allweddol
- bod angen dadansoddi manwl ar y prosesau sy’n digwydd
- bod marcwyr yn arbenigwyr annibynnol, nid yn beiriannau
- bod angen sicrhau cysondeb o fewn marciwr dros amser, yn fwy na rhwng marcwyr a’i gilydd
Cynhelir cyfarfod nesaf ALTE ym mis Ebrill 2012.
Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion
![]()

