Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Proffil Dysgwr

proffil dysgwr- ann brownDair blynedd a hanner yn ôl, roedd Ann Brown a’i theulu yn byw yn Surrey yn Lloegr. Roedd hi’n gweinyddu cyfrifon ac roedd ei gŵr yn gweithio ym maes awyr Heathrow. Ar ôl gwneud yr un swydd am bum mlynedd ar hugain, roedd hi’n bryd cael newid byd.

Erbyn hyn mae’r teulu wedi ymgartrefu ym Mhontarfynach, gogledd Ceredigion. Mae’r ddwy ferch, Kathryn sy’n 25 oed a Sarah sy’n 21 oed, hefyd wedi ymuno â’i rhieni i redeg siop a swyddfa bost y pentref. Yn rhyfedd iawn, er nad oedd ganddi unrhyw gysylltiadau uniongyrchol â Chymru cyn symud, mae’n debyg y cafodd ei mam ei geni yn y Rhondda, De Cymru, ond yna wedi symud i Loegr yn ystod y rhyfel.

Gyda newid byd daeth newid diddordebau. Gynt doedd gan Ann ddim diddordeb mewn ieithoedd o gwbl, ond wrth weld cymaint o bobl leol yn siarad Cymraeg a’r gymuned leol yn gweithredu drwy’r Gymraeg, dyma benderfynu bwrw ati i ddysgu’r iaith. Llwyddodd hefyd i ddylanwadu ar ei merch, Sarah, i ymuno â’r dosbarth Wlpan a gynhelir ddwy waith yr wythnos yn Nhregaron.

llun devil's bridge storesPrif resymau Ann dros ddysgu’r iaith yw er mwyn medru cynnal sgwrs â’r cwsmeriaid yn y siop ac er mwyn deall a chyfrannu at weithgarwch y gymuned e.e. Gŵyl Miri Mynach. Mae hi’n dysgu ochr yn ochr â’i merch ers mis Medi ac mae’r ddwy’n cytuno bod y profiad yn werthfawr iawn. Mae’r ddwy’n medru ymarfer eu sgiliau gyda’i gilydd a chyda’r cwsmeriaid! Fel person ifanc annibynnol, gobaith Sarah yw y byddai’r sgiliau iaith ychwanegol hefyd yn ei helpu yn y byd gwaith.

llun llysiauMae nifer o bobl wedi dylanwadu ar Ann ers iddi ddechrau dysgu Cymraeg ac un o’r rhai hynny yw Jen Llywelyn, awdures y llyfr ‘Welsh in a Year.’ Mae hi’n byw yn yr un pentref ac wedi cynnig tipyn o gyngor a chefnogaeth. Yn yr un modd mae ei thiwtor, Zoe Pettinger, wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i Ann ac mae’r sesiynau bob amser yn llawn hwyl a chwerthin. Yn ôl Ann, yr ysbrydoliaeth fwyaf yw bod Zoe ei hun yn ddysgwraig ac wedi llwyddo i groesi’r bont.

Pan nad yw’n sefyll y tu ôl i’r cownter neu’n pori drwy’r werslyfr, mae Ann hefyd yn hoffi coginio a gwneud darluniau gyda phwythau croes. Does ganddi ddim llawer o amser i’w hun o gofio bod y siop ar agor o 8 y bore tan 6 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ond o leiaf caiff gyfle i drochi go iawn gyda’r cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ... a digon o gyfleoedd i ymarfer ei gwaith cartref!

*  Mae croeso i chi ymweld â gwefan y siop: www.devilsbridgestores.co.uk

 

llinell