# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

  
Dechreuodd Gabriel ddysgu Cymraeg ym 1993 pan oedd Cwrs Haf Caerdydd yn cael ei gynnal yn Llanbed. Yna, yn 2006 mynychodd gwrs hyfforddi gyda Gareth Kiff yn y Wladfa a bellach mae’n Faer ac yn diwtor Cymraeg profiadol yn Nyffryn Camwy.  
    Ond nid ym Mhatagonia yn unig mae Cwrs Haf Caerdydd yn cael dylanwad. Y llynedd daeth 66 o ddysgwyr i Gaerdydd dros yr haf i ddysgu a gwella eu Cymraeg – gan gynrychioli 14 o wahanol wledydd! Roedd hyn yn cynnwys 5 o’r Ariannin, 3 o America, 2 o’r Almaen, 1 o’r Ffindir, Gwlad Pwyl, De Affrica, Sbaen, yr Eidal ac Iwerddon, 6 o Loegr, 37 o gyffiniau Caerdydd a’r Fro a 7 o weddill Cymru.
    Ymhlith y criw roedd Bettina Kuppers, gweithwraig gymdeithasol gyda phlant anabl yn yr Almaen. Mae hi bellach wedi mynychu’r Cwrs Haf bedair blynedd yn olynol ac yn hynod o rugl ei Chymraeg. Pan aiff yn ôl i’r Almaen mae’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol a thechnoleg fodern i ymarfer ei Chymraeg:

    "Dw i’n defnyddio MSN a Skype i siarad â ffrindiau yn Gymraeg a dw i hefyd yn defnyddio gwefan y BBC am ddeunyddiau darllen a gemau. Mae ‘na hefyd gwrs Cymraeg yn cael ei gynnal ar benwythnosau yn Halle yn yr Almaen gan ddynes sydd wedi sgwennu llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg mewn Almaeneg".

    Er gwaethaf y naws rhyngwladol, does dim dwywaith mai un o brif lwyddiannau cwrs y llynedd oedd 4 merch ifanc lleol o Gaerffili a fynychodd y cwrs Meistroli am fis. Yng ngeiriau un o’r criw 19eg oed, Ashleigh Hurford;

    "Mae’r cwrs wedi bod yn llawer o help i mi, dw i ‘di dod i siarad tipyn yn fwy rhugl. Aeth criw ohonon ni i ysgol cyfrwng Saesneg ond ers bod ar y cwrs yma dyn ni wedi dechrau siarad Cymraeg gyda’n gilydd am y tro cyntaf erioed."

    Byddwn yn dathlu’r llwyddiannau lleol a rhyngwladol hyn ym Maes D eleni fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Fro ac mae croeso i bawb. Gyda chwrs eleni (29 Mehefin - 21 Awst) yn dechrau llenwi’n barod, y gobaith yw gweld llawer mwy o lwyddiannau tebyg dros y flwyddyn nesaf, boed hynny yng Nghymru, Ewrop neu weddill y byd!


iidigwydd3.jpg