# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
   Newyddion Canolfan Morgannwg
dots.jpg
   Cwrs arbrofol
Sut mae perswadio dysgwyr i wneud mwy o oriau yn y dosbarth ac felly symud trwy’r llwybr dilyniant yn gynt a dod yn siaradwyr? Os yw’n cymryd chwe blynedd i rywun gyrraedd lefel Canolradd mewn dosbarth unwaith yr wythnos, dyw hi ddim yn syndod ein bod yn colli pobl. All neb ragweld amgylchiadau eu bywyd chwe blynedd ar ôl dechrau dysgu! Rhaid meddwl am strategaethau i helpu pobl. Yng Nghanolfan Morgannwg, rydym am gynnal cwrs peilot dros dair wythnos yn yr haf. Bwriad y cwrs hwn yw cwblhau lefel Mynediad 2 (M2) fel y gall y dysgwyr symud o M1 yn syth at Sylfaen ym mis Medi. Bydd y cwrs yn drwm i’r rhai hynny sydd am ddod, a bydd angen bod yn ddisgybledig wrth ddysgu geirfa. Bydd hefyd wrth gwrs yn anodd neu yn amhosibl i bobl sy’n gweithio, oni bai eu bod yn gallu perswadio eu cyflogwyr i’w rhyddhau. Mae pobl wedi gofyn a ellir ei gynnal gyda’r nos ond does dim digon o oriau ar gael ac mae’n rhaid i’r profiad fod yn un cadarnhaol yn addysgol – rhuthro a cholli pobl fyddai’r peth gwaethaf. Mae’n bosib y bydd rhai dysgwyr sydd eisoes wedi gwneud M2 yn ymuno â ni am wythnos ar y tro er mwyn adolgyu, ond nid dyma’r gynulleidfa darged. Rydym yn barod i redeg y cwrs hwn, a fydd yng Ngholeg Pen-coed, ger Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chyn lleied â chwech o ddysgwyr, am ein bod yn teimlo ei fod yn arwydd ein bod o ddifrif am i bobl ddysgu Cymraeg. Mae hon yn neges mae’n rhaid i ni ei throsglwyddo os ydym am newid y maes a chael rhagor o bobl ar gyrsiau dwys.

dots.jpg
   Dysgu Anffurfiol
Mae Shan Morgan yn gweithio’n llawn amser i ddatblygu Dysgu Anffurfiol o fewn Canolfan Morgannwg ers mis Rhagfyr ac mae wrthi’n brysur yn llunio rhaglen gynhwysfawr o gyfleoedd ar gyfer ein dysgwyr. Yn ogystal â’r syniadau arferol o gwrdd i sgwrsio mewn tafarn neu gaffi, trefnu clwb darllen, mynd ar daith gerdded, dyma flas ar rai o’r cyfleoedd fydd ar y gweill dros yr wythnosau nesaf.

Clybiau Cinio:
Mae tri chlwb cinio yn cyfarfod yn fisol – un mewn tafarn a dau mewn colegau addysg bellach. Mae’r cinio yn y coleg wir yn fargen - £4.50 am ginio dau gwrs.

Teithiau:
Bydd un daith i’r Llyfrgell Genedlaethol ac i Winllan Ffynnon-Las yn Aberaeron (14 Mai) ac un arall i Wasg Gomer a Thelynau Teifi yn ardal Llandysul (14 Mehefin)

Ffair Wanwyn
ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd – cyfle i ymlacio a phori yn y stondinau ond hefyd gwneud gweithdai megis ioga a chrochenwaith (10 Mai)

iidigwydd3.jpg