# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

   Hwylusydd Bro
   Canolfan Cymraeg i
   Oedolion Canolbarth Cymru

2tiwtor_side.jpg
Yn dilyn sefydlu’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion ledled Cymru, bu’n rhaid i’r Canolfannau hynny lunio strategaeth oedd yn ymwneud â datblygu’r ddarpariaeth anffurfiol yn eu rhanbarthau.
    Yn y Canolbarth, ceisiwyd edrych yn ymarferol o’r cychwyn cyntaf ar y gwaith hwn, a phenderfynwyd ceisio sefydlu cynlluniau Pontio, cynnal nifer o weithgareddau ar y cyd â phartneriaid gwahanol yn y rhanbarth, a sefydlu Cynllun Bro. Holl bwrpas y Cynllun Bro oedd targedu un ardal benodol er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth Cymry Cymraeg yr ardal honno o anghenion dysgwyr Cymraeg, a chynyddu ymwybyddiaeth y dysgwyr o’r byd Cymraeg sydd o’u cwmpas. Fel rhan o’r cynllun, penodwyd Hwylusydd Bro i ymgymryd â’r gwaith yn Rhagfyr 2007.
    Yr ardal a dargedwyd gennym oedd ardal Bro Ddyfi, ardal eang sydd â chnewyllyn da o fudiadau Cymreig, ac sydd yn draddodiadol Gymraeg ei hiaith. Ardal ddadleuol o ran ei ffiniau yw Bro Ddyfi, ond penderfynwyd ceisio cydweithio gyda cymaint o fudiadau’r ardal ag oedd yn bosib, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Mae gan Fwrdd yr Iaith swyddog gweithredu Iaith yn nhref Machynlleth, ac mae’n ardal Cymunedau’n Gyntaf yn ogystal. Mae cwmni cymunedol llewyrchus yno hefyd o’r enw Ecodyfi.
    Tasg gyntaf ein Hwylusydd Bro, Anna Prytherch, oedd ceisio tynnu’r prif fudiadau at ei gilydd i esbonio bwriad y gwaith, a chafwyd cyfarfod buddiol iawn, gyda phob un o’r mudiadau yn dangos diddordeb a brwdfrydedd yn y gwaith. Yn sgil y cyfarfod, cafwyd gwybodaeth am nifer o ddatblygiadau eraill yn yr ardal, megis Cynllun Biosffer Bro Ddyfi. Na, nid cynllun yw hwn i ddiogelu rhyw flodeuyn prin ar lethrau Llanbrynmair, ond ymgais gan Ecodyfi a gwahanol fudiadau’r ardal i ddenu statws Biosffer UNESCO i’r ardal, y cyntaf ym Mhrydain. Bydd, mi fydd y cynllun yn amddiffyn bio-amrywiaeth yr ardal, ond mae hefyd yn ystyried iaith a diwylliant yn gymaint rhan o amgylchedd ardal ag yw bywyd gwyllt y lle. Mi fydd y biosffer felly yn gwneud y gorau i amddiffyn iaith a diwylliant hynod Bro Ddyfi, a hynny dan oruchwyliaeth UNESCO. Ond mater arall yw hynny wrth gwrs.
    Mae’r Hwylusydd Bro wedi llwyddo i dynnu sylw at anghenion dysgwyr yn yr ardal. Fel tiwtoriaid, clywn yn aml am y gŵyn, ‘Does byth dim byd i’w wneud yma,’ neu ‘Dyw pobl ddim yn ein cymryd o ddifrif.’ Ein hamcan oedd codi ymwybyddiaeth y Cymry Cymraeg o’u rôl hwy wrth geisio adfer y Gymraeg yn yr ardal, a’r hyn y gallent ei wneud o safbwynt codi hyder dysgwyr.
    Llwyddodd Anna i ddechrau sesiynau siarad i ddysgwyr yn yr ardal, a chynhaliodd nifer o foreau coffi ar gyfer y dysgwyr. Cynhaliwyd lawnsiad ar Fawrth 1af yn hen adeilad Celtica ym Machynlleth, a denwyd rhai o ddysgwyr a siaradwyr cynhenid Cymraeg yr ardal i’r digwyddiad hwnnw, a hynny er gwaetha’r ffaith fod nifer o ddigwyddiadau eraill yn digwydd yn yr ardal ar yr un diwnod, fel y gallwch ddychmygu.
    Trwy gydweithio gydag asiantaethau eraill, llwyddodd i drefnu taith gerdded i ddysgwyr yn yr ardal, un o’r gweithgareddau sydd fwyaf poblogaidd ymysg pobl sy’n dysgu yn yr ardal. Gwnaeth waith ymchwil hefyd i ofyn a fyddai cynllun mentora yn yr ardal yn fodd i ddatblygu hyder dysgwyr a siaradwyr cynhenid, ac mae un o asiantaethau’r ardal wedi dangos diddordeb mewn datblygu’r ddarpariaeth hon wedi cyfnod yr hwylusydd bro.
    Mae gweithio o fewn ardal gyfyngedig yn rhoi ffocws arbennig i anghenion yr ardal honno, a medrodd yr Hwylusydd Bro yn ystod ei chyfnod byr yn yr ardal, lunio partneriaethau da gyda mudiadau lleol, codi ymwybyddiaeth o anghenion dysgwyr gwahanol trwy amrywiaeth o weithgareddau, a datblygu hyder dysgwyr yr ardal drwy weithgareddau megis y sesiynau siarad anffurfiol yn yr ardal. Tynnodd sylw hefyd y mudiadau o fewn yr ardal at anghenion dysgwyr wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan wneud yr anghenion hynny yn destun trafodaeth a ffocws, yn hytrach na rhywbeth sydd ar yr ymylon. Yr her yn awr yw darparu cyfleoedd i’r egni newydd hwn barhau a ffynnu.

Dafydd Morse

iidigwydd3.jpg