# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
   Cymraeg i’r Gweithle, Cymraeg i’r Teulu!
dots.jpg
   Y Jonesiaid a’r Gymraeg

Symbylwyd Pat Jones i ddysgu Cymraeg gan hysbyseb e-bost am gyrsiau Cymraeg a ddaeth ati drwy ei gweithle, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. A hithau’n Weithiwr Cymdeithasol, daw i gyswllt cyson â phlant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg yr ardal, a theimlai y byddai’n fuddiol gallu cyfathrebu â hwy drwy’r Gymraeg. Cafodd flas ar y cwrs o’r cychwyn cyntaf, ac er iddi golli nifer o’r gwersi oherwydd ymrwymiadau gwaith, mae wedi dyfalbarhau, ac mae wrthi bellach ers dros saith mis. Mae Pat hefyd yn manteisio ar y Cymry Cymraeg yn ei swyddfa i ymarfer yr iaith yn feunyddiol.

‘Mae dysgu’r Gymraeg yn eitha her, ond dw i’n mwynhau’n fawr, ac yn benderfynol o ddod yn rhugl ryw ddiwrnod. Mae peint o gwrw’n help mawr, hefyd’, meddai Pat.

Cynigiwyd rhagor o gyrsiau Cymraeg yn ardal Pen-y-bont yn y gwanwyn, ac o weld eu mam yn cael y fath hwyl yn dysgu’r Gymraeg, penderfynodd Susie a Gwil roi cynnig hefyd. Mae Susie a Pat yn mwynhau rhoi’r iaith ar waith yn y cartref gyda Hari bach, mab Susie. ‘Dw i’n falch iawn o allu defnyddio ychydig o Gymraeg gyda Hari, a bydda i’n edrych ‘mlaen at fynd i’r gwersi bob wythnos – mae’n ddigwyddiad cymdeithasol, pawb yn gyfeillgar, a’r dysgu’n hwyl hefyd’, meddai Susie.
pat.jpg
O’r gwaelod, yn wrth-glocwedd:
Pat a’r ci, Gwil, Susie ac Ian, ei dyweddi
– a Hari bach yn y canol!

iidigwydd3.jpg