# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
   Newyddion Canolfan y De Orllewin

dots.jpg
de-o.jpg
   Otwarte
   Drzwi!

Ar 17 Mai cynhaliwyd diwrnod Otwarte Drzwi / Agor y Drws ym mhentre Llanfihangel-ar-arth yn sir Gaerfyrddin, sef digwyddiad arbennig a drefnwyd ar y cyd gan Gymdeithas Neuadd yr Ysgol yn Llanfihangel-ar-Arth, Menter Gorllewin Sir Gâr a ninnau yng Nghanolfan CiO y De Orllewin i estyn croeso Cymreig a Chymraeg i Bwyliaid sydd wedi symud i’r ardal. Chwilio am waith yw’r rheswm penna am symud i orllewin Cymru a nod y diwrnod oedd rhoi cyfle i’r Pwyliaid gael blas ar ddysgu Cymraeg, mwynhau diwylliant cynhenid a mwynhau chwaraeon. Daeth dros 50 o Bwyliaid a nifer o Gymry lleol i’r digwyddiad yn Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-Arth. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr a bu’r Pwyliaid hefyd yn blasu bwyd o Gymru wrth i’r Cymry flasu bwyd traddodiadol Gwlad Pwyl.
    Yn ogystal â’r Te Cymreig a’r bwydydd Pwylaidd, roedd y digwyddiad cyffrous hwn hefyd yn cynnwys cerddoriaeth werin Gymreig a gwersi byr i gyflwyno ychydig o Gymraeg. Clywyd sgwrsio gan Bwyliaid sy’n siarad Cymraeg a Chymry sy’n siarad Pwyleg a chafodd gêm bêl-droed ryngwladol (Cymru v Gwlad Pwyl) ei chynnal ar ddiwedd y diwrnod.
    Mae’r trefnwyr yn awyddus iawn i adeiladu ar lwyddiant y dydd trwy gynnal digwyddiadau pellach i ddatblygu’r berthynas rhwng y ddwy gymuned a bydd y Ganolfan yn trefnu cyrsiau Cymraeg pellach i’r Pwyliaid.
 
Aled Davies

iidigwydd3.jpg