# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

   Cynhadledd
   Flynyddol
   Tiwtoriaid
   yn Llangollen

gog1.jpg
Yn Llangollen yn Nyffryn Clwyd y cynhaliwyd ail gynhadledd flynyddol Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd. Fe ymunodd 12 o diwtoriaid y Canolbarth gan godi cyfanswm y rhai oedd yn bresennol i 68.


gog2.jpg
Rhannwyd y rhai a fynychodd yn ddau brif grŵp, gyda’r tiwtoriaid mwyaf profiadol yn cael cyflwyniadau ar ddatblygiadau ym maes CiO a dysgu cyfathrebol, tra bod y gweddill yn elwa o sesiynau ‘cyflwyno iaith’, ‘paratoi gwersi’ ac ‘ymarfer iaith’ o’r Rhaglen Hyfforddi Genedlaethol.

iidigwydd3.jpg



gog3.jpg
Cafwyd sawl cyflwyniad cyffredinol i bawb a diddordeb mawr yn yr hyn oedd gan Mandi Morse i’w ddweud am ‘Y Tiwtor’, canlyniadau ymchwil ym maes CiO, dulliau dysgu Gwlad y Basg, achredu a pharatoi AHA.  Wedi gweithio’n galed trwy’r dydd cafwyd hefyd amser i ymlacio gyda cherdd a chân yng nghwmni Geraint Lovgreen ac Owen Owens yn y bar min nos.


gog4.jpg
Ar ddiwedd y penwythnos cafwyd adborth adeiladol yn dangos gwerthfawrogiad amlwg y tiwtoriaid o’r cyfle i ddod at ei gilydd i rannu syniadau ac arferion da a’r farn gyffredinol fod y cyfleoedd hyfforddi a gynigwyd yn fuddiol ar lawr y dosbarth.
2tiwtor_side.jpg