Gogledd
AROLWG BEAUFORT – HAF 2007
CRYNODEB O’R PRIF GANFYDDIADAU
Dyma rai o ganfyddiadau cwmni Beaufort a gomisiynwyd gan
ganolfannau’r Gogledd a’r Canolbarth i ymchwilio ymhlith poblogaeth y rhanbarthau. Holwyd 800 o bobl a chynhaliwyd wyth grŵp ffocws.
Cefnogaeth i’r Gymraeg neu i ddysgu’r Gymraeg
36% o bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn gryf o’r farn yr hoffent fedru siarad Cymraeg
5% o bobl sydd ddim yn dysgu ar hyn o bryd yn dweud y byddant yn debygol iawn o ddilyn cwrs dysgu Cymraeg o fewn y 5 mlynedd nesaf
Mae’r farchnad 16-34 oed yn fwy cefnogol na’r un arall = cynulleidfa amlwg ar gyfer hyrwyddo darpariaeth i rieni
Mae cyn-ddysgwyr ddwywaith yn fwy tebygol na dysgwyr newydd o ddysgu Cymraeg ar gwrs yn y 5 mlynedd nesaf = cynulleidfa amlwg o ran denu dysgwyr yn ôl
Mae pobl sydd eisoes yn medru siarad ychydig o Gymraeg yn fwy tebygol o ddysgu na dysgwyr newydd = cynulleidfa ar gyfer "I understand it but I don’t speak it"
Rhesymau pam fyddai pobl yn dysgu yn y dyfodol:
•16% - rhesymau gwaith = sail dros hyrwyddo yn y gweithle
•13% - plant = sail dros hyrwyddo cyrsiau i rieni
•10% - balchder cenedlaethol/hunaniaeth
•10% - petai mwy o amser ganddynt [dim rheolaeth ar hyn gennym]
62% o’r sampl gyfan yn gweld pwrpas mewn dysgu Cymraeg
48% o bobl a anwyd y tu allan i Gymru yn gweld pwrpas mewn dysgu Cymraeg = mewnfudwyr yn gynulleidfa darged cyn bwysiced ag unrhyw grŵp arall
Rhaid cyfaddef bod gweld mai dim ond 5% o’r boblogaeth sydd wirioneddol eisiau dysgu’r iaith yn dipyn o siom. Ond mae ffordd arall o edrych arni. Mae’r canran hwn yn cyfateb i 20,000 o boblogaeth y gogledd – a dim ond 4,000 o ddysgwyr sydd gennym ar hyn o bryd. Mae yma le i fod yn optimistaidd felly a marchnata’n cyrsiau i ddenu’r dysgwyr newydd. Cwestiwn arall wrth gwrs yw a fydden ni’n medru ymdopi o ran staffio o gael cynnydd sylweddol. Mwy o ganlyniadau Beaufort yn y rhifyn nesaf.