Newyddion Canolfan Morgannwg
Podlediadau
Y newyddion cyffrous o Ganolfan Morgannwg yw bod 13 o bodlediadau lefel Mynediad bellach ar gael ar iTunes U. Lansiwyd safle Prifysgol Morgannwg yn ystod mis Mawrth a dewis y golygydd adeg y lansiad oedd y podlediadau Cymraeg. Llongyfarchiadau i Maldwyn Pate sydd wedi bod wrthi gyda’r gwaith – ynghyd â’r holl staff eraill y mae eu lleisiau i’w clywed ar y podlediadau. Y cam nesaf yw podlediadau Sylfaen – mae’r rhain eisoes ar y gweill a byddant yn dechrau ymddangos dros yr wythnosau nesaf.