Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl canolfan y gogledd

Mae Canolfan CiO Gogledd Cymru wedi cynllunio’n strategol i dargedu rhieni a theuluoedd di-Gymraeg ar gyfnodau tyngedfennol. Fel canlyniad bydd hi’n anodd i deuluoedd ifanc osgoi’r her i ddysgu Cymraeg!

Mae cyfres o gyrsiau blasu byrion, gydag adnoddau llawn lliw, yn cyflwyno iaith a byd babis a phlant bychain. Cynllunir dilyniant i gyrsiau prif-ffrwd mewn cydweithrediad â’r dysgwyr, boed cwrs dwys Wlpan, neu gwrs wythnosol cymunedol neu’r cwrs cenedlaethol newydd CiT .

Un nodwedd allweddol i’r cyrsiau hyn yw’r cyfle i ‘Ddysgu fel Teulu.’ Beth yw hyn?
Yn syml, mae rhieni yn defnyddio’r Gymraeg maen nhw newydd ei dysgu gyda’u plant ar ddiwedd y sesiwn, gyda’r tiwtor ar gael i annog a helpu Mam, Dad a’r plentyn ddechrau’r siarad Cymraeg hefo’i gilydd.

Er bod ein cynulleidfa darged wrth reswm yn oedolion, mae’r cyrsiau wedi eu cynllunio i fod yn ‘blentyn canolog,’ gan fod pob rhiant eisiau’r gorau i’w plant, a hefyd mae ymchwil yn dangos mai rhesymau teuluol yw’r rhesymau amlycaf dros benderfynu  dysgu Cymraeg.

llinell

Dyma’r ystod o gyrsiau:

Cymraeg o’r Crud
Cwrs mewn cydweithrediad â’r mudiad TWF, ar gyfer rhieni newydd a’u babis hyd at 10 mis oed. Cwrs llawn ymadroddion defnyddiol: ‘ty’d i newid clwt,’ ‘dw i’n dy garu di,’ ‘ti’n real pisyn.’

Cwrs Ffeil Goch Mudiad ysgolion Meithrin
Cwrs i gyflwyno iaith a gweithgareddau llaw yn y cylch Ti a Fi a’r Ysgol Feithrin – rhieni a phlant 1-3 oed.

I rieni plant sy’n cychwyn yn yr ysgol mae’r cwrs Hwyl I’r Teulu ar gael. Mae’r rhieni yn mynychu’r sesiynau iaith yn yr ysgol, am yr hanner awr olaf bydd eu plant yn ymuno i ddarllen stori, chwarae gemau iaith, canu, hyd yn oed gwneud tipyn o ymarfer corff!

Mae un cwrs arall, sef Amser Cael Hwyl, wedi’i seilio ar y Cyfnod Sylfaen newydd, sydd yn ddilyniant i’r cwrs Hwyl mewn ysgolion lle mae rhieni angen mwy o gefnogaeth cyn mentro ymuno â chwrs prif-ffrwd.

Mae’r cyrsiau yma wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae sylwadau rhieni, gweithwyr maes ac athrawon ysgolion cynradd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Y nod rŵan yw mapio’r dilyniant. Nid yw pob rhiant yn gallu ymrwymo i gwrs prif ffrwd yn syth, ond mae cynllun strategol arloesol y gogledd yn sicrhau eu bod yn cael sawl cynnig i ddysgu’r iaith er mwyn eu plant. Y gobaith yw y bydd llawer o deuluoedd yn newid iaith yr aelwyd trwy gymorth tiwtoriaid Cymraeg i’r Teulu. Wrth gyfuno hyn â chyfleoedd dysgu anffurfiol i deuluoedd cyfan dan ni’n siŵr o gael ‘Hwyl i’r Teulu!’

llun canolfan 2

llinell