Mae Nant Gwrtheyrn wedi gweld llawer o newidiadau yn ddiweddar ac yn ogystal â datblygu’r cyfleusterau sydd yno, mae yna ddatblygiadau hefyd o ran aelodau’r staff. Yn ddiweddar, penodwyd Pegi Talfryn yn Rheolwr Addysg newydd y Ganolfan Iaith a Threftadaeth yn y Nant.
Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?
Ces i fy ngeni yn Seattle, Talaith Washington, yng
ngogledd-orllewin yr Unol Daleithiau.
Ble cawsoch chi eich addysg?
Es i i’r ysgol yn yr Unol Daleithiau. Ond yn hytrach na mynd i brifysgol yn America penderfynais fynd i Lambed. Ces i weddill fy addysg yn y Gogledd, gyda chwrs ysgrifenyddol dwyieithog ym Mangor, yna ymarfer dysgu eto ym Mangor.
Pam symudoch chi i Gymru?
Rôn i eisiau dod i Gymru ers pan ôn i’n ifanc. Rôn i wedi darllen chwedlau o Gymru a dechrau ymddiddori yn y wlad, yna wnes i ddarllen mwy am hanes a diwylliant y wlad, a phenderfynu dod yma.
Pam arhosoch chi yng Nghymru?
Arhosais i yng Nghymru achos rôn i wedi cwrdd â Ioan, fy ngŵr.
Ble ydych chi’n byw nawr, a chyda phwy?
Dw i’n byw mewn pentref o’r enw Diserth yn ymyl Y Rhyl gyda Ioan a’r plant, Gwenno, Owain a Siôn, un gath a dau ffurad. Ond bydd rhaid i ni symud i’r Gorllewin gyda’m swydd newydd. Mae’n debyg yr awn ni i rywle o gwmpas Caernarfon fydd yn gyfleus i’r ddau ohonom fynd i’r gwaith.
Pryd dechreuoch chi ddysgu Cymraeg a pham?
Pan ddes i i Gymru rôn i’n astudio Cymraeg fel rhan o’m cwrs coleg. Rôn i’n benderfynol o ddysgu’r iaith achos mai dyna’r ffordd orau i ddod i adnabod y wlad a’i phobl.
Oes cefndir Cymraeg gennych chi o gwbl?
Nac oes, ddim o gwbl.
Beth oedd ymateb y teulu yn America pan benderfynoch chi aros yng Nghymru?
Mewn ffordd doedd hi ddim yn ormod o sioc oherwydd rôn i wedi dechrau ymgartrefu yma. Wedi’r cyfan, rôn i wedi bod yng Nghymru ers pedair blynedd yn barod.Am fod America’n wlad mor fawr mae’n eitha’ cyffredin i bobl symud miloedd o filltiroedd o’u cynefin wrth gael addysg uwch ac er mwyn cael gwaith. Wrth gwrs, wedyn roedd hynny’n rhoi esgus iddynt ddod yma ar wyliau!
Ydy dysgu Cymraeg wedi newid eich ffordd o fyw o gwbl?
Doedd y dysgu ei hun ddim wedi newid fy ffordd o fyw. Ond roedd y dysgu yn arwain at fyw trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny wedi esgor ar bob math o brofiadau gwahanol ac wedi newid fy ffordd o fyw. Erbyn hyn, Cymraeg yw fy iaith gyntaf.
Beth oedd eich gwaith cyn cael y swydd newydd?
Rôn i’n gwneud gwaith eitha’ tebyg, sef Swyddog Cyrsiau Bloc gyda Phopeth Cymraeg. Ond cyn hynny bues i’n gwneud amrywiaeth o swyddi: dysgu prosesu geiriau Cymraeg a Gofal Plant yng Ngholeg Y Rhyl, Llandrillo; hyfforddi cynorthwywyr dosbarth yn y gymuned; ysgrifennu cyrsiau Cymraeg; athrawes gynradd; Swyddog y Dysgwyr gyda’r Eisteddfod Genedlaethol; cyfieithu a gwneud gwaith ysgrifenyddol. Tipyn o bopeth!
Beth yw uchafbwynt eich gyrfa hyd yn hyn?
O bosib gweld fy nghwrs Cymraeg i Rieni (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) yn cael ei argraffu a’i ddefnyddio ar draws Cymru, ond hefyd cefais foddhad mawr o gael y rhyddid i greu awyrgylch roedd y dysgwyr yn gallu ffynnu ynddo gyda Phopeth Cymraeg a bod yn greadigol wrth greu cyrsiau a gweithgareddau.
Sut ydych chi’n gweld y maes Cymraeg i Oedolion yn datblygu?
Hoffwn weld mwy o’r cydweithio sy’n dechrau digwydd rhwng y cyrff er lles y dysgwyr. Mae sgiliau unigryw gan bob unigolyn a chorff, a da o beth fyddai i ni ddysgu ac elwa o brofiadau’n gilydd.
Beth yw’ch gobeithion chi ar gyfer Nant Gwrtheyrn?
Mae’n bwysig fod y Nant yn cynnig profiad unigryw, ehangach na’r hyn sy’n digwydd mewn canolfannau eraill. Wedi’r cyfan, nid cystadlu ond ategu rydym yn ei wneud yma. Hoffwn i weld y Nant yn troi’n adnodd gwerthfawr i’r gymuned ac i ddysgwyr o bob cwr o Gymru (a thu hwnt).
A ydych chi’n gweld eich hun yn symud nôl i America rywbryd yn y dyfodol?
Ddim o gwbl. Cymru yw fy nghartref i erbyn hyn ac yma y ganwyd fy mhlant. Dw i wedi gosod gwreiddiau.
Beth yw eich hoff lyfr?
Cymraeg: Does dim byd wedi rhoi mwy o bleser i mi na chyfres Rala Rwdins, ond dw i’n mwynhau’r clasuron, megis nofelau Daniel Owen, Y Wisg Sidan a’r ‘Stafell Ddirgel.
Arall: The House of the Spirits gan Isabel Allende. Dw i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau plant yn Ffrangeg.
Beth yw eich hoff fwyd? Bwyd Thai llysieuol.
Sut ydych chi’n hoffi ymlacio? Darllen, cerdded, canu a chanu’r piano (ond dw i ddim yn dda iawn), Tae Kwon Do (mae gen i wregys coch), mynd i’r Theatr a gwylio ffilmiau efo’r plant.
Pa berson (sy’n fyw neu’n farw) rydych chi’n ei edmygu fwyaf? Dw i ddim yn berson am arwyr mawr. Mae’n well gen i’r bobl gyffredin sy’n gweithio’n ddiwyd dros ryw achos yn ddistaw ac yn gydwybodol.
Ble hoffech chi fyw?
Rhywle yn y Gorllewin lle mae cymdeithas naturiol Gymraeg.
Pe baech chi’n cael dewis, pa swydd fyddai’r swydd ddelfrydol i chi?
Cwestiwn hawdd: Taswn i ddim yn gweithio yma baswn i’n hoffi bod yn flaswr siocled proffesiynol!
Dilynwch Pegi (mewn iaith syml ar gyfer dysgwyr) ar www.twitter.com/PegiNant
Trydar o’r Nant
Gyda Rheolwr Addysg newydd yn dechrau yn Nant Gwrtheyrn y mae’r Nant yn cynnig gwasanaeth newydd i ddysgwyr Cymru, sef ‘Twitter’ rheolaidd.
Mi fydd Pegi Talfryn, sydd wedi cychwyn ar ei gwaith ym Mis Ionawr, yn ei chyflwyno ei hun ac yn cofnodi ei phrofiadau wrth iddi ddod i adnabod ac ymgynefino â’r lle mewn Cymraeg syml ar gyfer dysgwyr. Bydd y ‘Trydar’ yn dod allan yn rheolaidd o dan yr enw ‘PegiNant’.
‘Don i ddim yn gwybod pa mor hawdd oedd defnyddio ‘Twitter’’, meddai Pegi. ‘Y cyfan sydd angen ei wneud yw mynd ar www.twitter.com/PegiNant. Does dim angen ymuno er mwyn darllen y datganiadau.’
Gobaith Nant Gwrtheyrn yw y bydd y trydar hwn yn diwallu anghenion dysgwyr am ddeunydd darllen syml a hefyd yn eu cadw mewn cysylltiad â’r Nant a’r holl ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill yno. Gellir cael mwy o fanylion am gyrsiau neu weithgareddau yn Nant Gwrtheyrn ar y wefan, www.nantgwrtheyrn.org neu drwy ffonio 01758 750334
Trydar cyntaf Pegi:
Dw i'n dechrau gweithio yn Nant Gwrtheyrn heddiw. Ond dw i ddim yn y Nant. Mae hi'n bwrw eira. Mae'r ffordd ar gau. Dw i'n drist iawn.
Manylion pellach/ Further details: pegi@nantgwrtheyrn.org (01758 750334)