# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Morgannwg
Pwy yw Pwy ym Morgannwg?

Mae 12 o bobl yn y tîm Cymraeg i Oedolion ac mae ein prif swyddfa ar gampws Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest. Mae Owen Saer yn gweithio o swyddfa yng Ngholeg Pen-coed, sy’n rhan o ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Rydyn ni’n gwasanaethu ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful. Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn bartner i ni o fewn y Ganolfan. Dyma gyflwyniad ysgafn i’r staff. Cofiwch gysylltu!

Enw:Helen Prosser Teitl:Pennaeth Cyfrifoldebau:Dweud wrth bawb arall beth i’w wneud Hoff ymadrodd:“Lunch is for whimps” Helen Prosser01443 482553
Heprosse@glam.ac.uk
Enw:Colin Williams Teitl:Swyddog Hyfforddi Cyfrifoldebau:Trefnu hyfforddiant, sicrhau bod gan bob tiwtor Gynllun Hyfforddi Unigol, cynnal y cwrs hyfforddi cenedlaethol, cydlynu arsylwi. Hoff ymadrodd:“Ble mae dy ffurflen werthuso?” Colin Williams01443 484231
icwillia@glam.ac.uk
Enw:Lynette Jenkins Teitl:Swyddog Datblygu Cyfrifoldebau:y rhaglen yn ardal Rhondda Cynon Taf, arholiadau Hoff ymadrodd:“Byddwch yn ofalus – dw i’n gwisgo fy sgidie coch heddiw” Lynette Jenkins01443 483691
ljenkins@glam.ac.uk
Enw:Owen Saer     Teitl:Swyddog Datblygu Cyfrifoldebau:y rhaglen yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Cymraeg i’r Teulu Hoff ymadrodd:“Lysh”         Owen Saer07740760497
osaer@glam.ac.uk
Eisteddfod y Dysgwyr - Canolfan Gartholwg - 8 Chwefror.
Rhaglen testunau ar gael
Cinio Gŵyl Dewi - Coleg Pen-y-bont ar Ogwr - 6 Mawrth.
Enw:Catherine Williams Teitl:Swyddog Datblygu Cynorthwyol Cyfrifoldebau:Gofalu am asesiadau RhCA, dysgu nifer o gyrsiau byrion mewn gweithleoedd Hoff ymadrodd:“Pwy sy eisiau rhedeg marathon gyda fi?” (Does neb byth yn ateb!) 01443 483691
cwillia2@glam.ac.uk
Enw:Sue MacMillan Teitl:Tiwtor llawn amser Cyfrifoldebau:Datblygu yn y Rhondda, gofalu am ein llinell gymorth i ddysgwyr Hoff ymadrodd:“Mae Elfis yn fyw!” 01443 482894
smacmill@glam.ac.uk
Enw:Dr Angharad Lewis Teitl:Tiwtor llawn amser Cyfrifoldebau:Tiwtora, gofalu am y cyrsiau preswyl a bloc Hoff ymadrodd pawb am Angharad:“Mae Angharad yn gariad”. Hi yw wyneb y Ganolfan ar ein holl gyhoeddusrwydd! 01443 483410
alewis1@glam.ac.uk
Enw:Dr Maldwyn Pate Teitl:Tiwtor llawn amser Cyfrifoldebau:Tiwtora, Cwrs dwys Morgannwg Hoff ymadrodd:“Na, Colin, dw i ddim am lenwi’r un ffurflen werthuso arall” 01443 482127
mkpate@glam.ac.uk
Enw:Shan Morgan Teitl:Swyddog Dysgu Anffurfiol Cyfrifoldebau:Cyfweld ag unigolion, trefnu’r Cynllun Pontio a rhaglen o weithgareddau anffurfiol Hoff ymadrodd:“Pwy sy eisiau dod ar drip?” 01443 483600
smorgan2@glam.ac.uk
Enw:Lisa Vranch Teitl:Rheolwr Gweinyddu Cyfrifoldebau:Cadw trefn ar bawb, a’r swyddfa Hoff ymadrodd:“Dim problem – gwna i fe nawr!” 01443 483765
lcvranch@glam.ac.uk
Enw:Angharad Davies Teitl:Gweinyddydd Cyfrifoldebau:Popeth dan haul Hoff ymadrodd:“Jyst gwasga’r botwm” 01443 483600
ardavie1@glam.ac.uk