# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
E-ddysgu

Mae BOGA, sef y cwrs ar-lein i ddysgwyr Basgeg, yn rhan o’r duedd gynyddol o alluogi’r dysgwr i ddysgu’n annibynnol. Datblygodd HABE y cwrs ar-lein fel ymateb uniongyrchol i ostyngiad brawychus yn yr ymrestriadau - 48,000 ym 1996 lawr i 33,000 yn 2002.

Mae nifer cynyddol o ddysgwyr yn anfodlon treulio 10 awr yr wythnos mewn dosbarth, felly mae BOGA yn ateb eu gofynion hwy.

Mae’r cysyniad hwn o ddysgu annibynnol yn galluogi’r dysgwr i symud ymlaen yn ei amser ei hun, ar ei gyflymder ei hun, ond mae yna elfen wyneb-i-wyneb yn perthyn i’r cwrs hefyd a cheir tiwtorial bob tair wythnos.

O ran y profiad dysgu iaith a ddeilliodd o’r wers ar-lein, roedd pawb yn cytuno ei fod wedi atgyfnerthu yr hyn a ddysgom yn y dosbarth yn ddirfawr. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae amser yr unigolyn yn brin, gyda gofynion gwaith, teulu ac hamdden yn pwyso’n drwm, gwelwn fantais fawr mewn dysgu annibynnol, hyblyg.

Mae llwyddiant ysgubol dysgu Basgeg i oedolion yn cael ei atgyfnerthu gan sawl ffactor e.e. yr elfen o ddysgu preswyl, cynllun aros gyda theuluoedd mewn ardaloedd cadarn eu hiaith, a gweithdrefnau dysgu anffurfiol cryf. Ond yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil y gwaith ymchwil parhaus a wneir yn y maes, yw’r ffaith mai perthynas y tiwtor â’i ddosbarth yw’r ffactor sy’n effeithio fwyaf ar y dysgu.

Mae yna wersi i’w dysgu yn naturiol o’r hyn a welsom yng Ngwlad y Basg, ac un peth a ddaeth i’r amlwg oedd bod yn rhaid cael ymchwil trylwyr er mwyn darganfod yr hyn sy’n gweithio orau, ac mae’n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hamcanion. Rhaid cofio hefyd bod 41 miliwn ewro yn cael eu buddsoddi yn y maes, tua phedair gwaith cymaint â’r hyn a ddyrennir i ni fel maes yng Nghymru!

#