Yn ôl ym Mis Mawrth 2007 aeth cynrychiolwyr o bob canolfan Cymraeg i oedolion i Wlad y Basg i ymchwilio nifer o agweddau o ddysgu Basgeg i oedolion. Mynychon lu o sesiynau ymchwil ar bynciau megis systemau sicrhau ansawdd, darpariaeth breswyl, dysgu anffurfiol, Basgeg y gweithle, cwricwlwm ac ymchwil ond yr agwedd fwyaf diddorol o’n rhan ni fel addysgwyr fodd bynnag oedd cael edrych ar ddulliau dysgu’r iaith.
Ein cysylltiad ni yng Ngwlad y Basg oedd HABE, sef sefydliad sy’n rhan o’r llywodraeth ac sydd â chyfrifoldeb strategol dros ddysgu Basgeg. Dydy HABE ddim yn cynnal dosbarthiadau, sefydliad ydyw sy’n ariannu ac yn goruchwylio’r Euskaltegi, sef yr ysgolion dysgu Basgeg i oedolion.
Cefndir hanesyddol dysgu Basgeg i Oedolion
Ar ddiwedd cyfnod Franco a’r gormes ieithyddol a fu yn y cyfnod hwnnw, teimlwyd bod angen cryfhau llythrennedd a chanolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu, felly cyrsiau strwythuredig gramadegol a gafwyd gyda’r dysgu’n eithaf traddodiadol.
Ymhen ychydig o flynyddoedd ceisiwyd dod â dysgu Basgeg i brif ffrwd dysgu ieithoedd eraill gan ddilyn maes dysgu Saesneg yn bennaf a defnyddio pa duedd bynnag oedd yn ffasiynol ar y pryd. Wedi arbrofi â nifer o ddulliau penderfynwyd bod angen datblygu dull neilltuol ar gyfer Basgeg yn hytrach na dilyn unrhyw ddull dysgu Saesneg yn slafaidd.
Mae yna nifer o egwyddorion cyffredin yn perthyn i ddulliau dysgu Basgeg sydd hefyd yn perthyn i ddulliau prif-ffrwd yng Nghymru, er enghraifft :
Siarad yw’r sgil bwysicaf
- Mae cywiro’n digwydd yn ôl gofynion a lefel y dysgwyr a’r tiwtor sy’n penderfynu pryd, sut a lle bydd y cywiro’n digwydd
- Ceisiant gael y gorau o bob dull yn hytrach na glynu’n ffwndamentalaidd at un
- Ystyrid bod dysgu allgyrsiol yn holl bwysig i gyrraedd rhuglder. Er bod yr egwyddor hon yn cael ei derbyn yng Nghymru, caiff ei hystyried yn allweddol yng Ngwlad y Basg.
Ond mae gwahaniaethau yn ogystal:
- Does dim gwerslyfrau. Y theori yw nad yw dysgwyr o hyd yn dysgu yn y drefn y mae’r athro’n cyflwyno’r gwaith. Ni welir pwrpas felly mewn gweslyfrau ond yn hytrach canolbwyntir ar annog dysgu annibynnol i gwrdd ag anghenion dysgu unigol.
- Rhoddir pwyslais ar ddealltwriaeth cyn siarad. Ond nid ydynt yn mynd â’r elfen hon i’r eithafion a buan iawn y daw’r llefaru yn eu cyrsiau. Cofier yn ogystal bod lefel uchel o ddealltwriaeth eisoes gan y dysgwyr cyn cychwyn ar y cyrsiau.
- Sylw un-i-un. Mae pob dysgwr yn cael sgwrs un-i-un â’r tiwor bob wythnos.
- Tafodiaith a’r iaith safonol.
Y duedd yng Nghymru yw dysgu yn lled dafodieithol, yn arbennig felly yn y gogledd, y canolbarth a’r gorllewin. Mae i’r iaith Fasgeg 8 o dafodieithoedd a 24 o is-dafodieithoedd. O’r herwydd bathwyd iaith ffurfiol, safonol a elwir yn Batua. Does yna’r un siaradwr brodorol yn siarad Batua fel cyfrwng cyfathrebu anffurfiol, serch hynny mae’n rhaid i’r dysgwyr ddysgu’r iaith safonol hon er mwyn goroesi. Fe’i mynnir pan yn ceisio am swydd mewn llywodraeth leol, a hefyd mae’n fodd o sicrhau ansawdd a chysondeb i’r iaith drwy’r wlad. Batua, yr iaith safonol, yw sail cyrsiau Basgeg yn hytrach na’r tafodieithoedd.