# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Caerdydd
Caerdydd
Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Gweledigaeth y Ganolfan yw darparu addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf yn y Gymraeg fel ail iaith er mwyn cyfrannu’n llawn at greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.

Gwybodaeth am y Ganolfan:

Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am holl ddarpariaeth dysgu Cymraeg i Oedolion yn siroedd Caerdydd a Bro Morgannwg. Gyda 1,500 o fyfyrwyr yn 2006-7 a 19 aelod staff llawn-amser, hyd at 35 tiwtor rhan-amser a chyda chytundebau trydydd parti gyda’r darparwyr eraill yn y rhanbarth, mae’r Ganolfan yn tyfu.

Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio gyda ni gan ein bod wedi cael ein sefydlu yn un o chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol. Mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gyda Choleg Glan Hafren, Coleg y Barri, Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, De Cymru.

Darperir hefyd weithgareddau allgyrsiol ac anffurfiol y tu allan i’r dosbarth i atgyfnerthu’r dysgu ac i roi cymorth i’r dysgwr ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd a chymdeithasu gyda siaradwyr cynhenid y Gymraeg.

Staff y Ganolfan:

Oherwydd ein llwyddiant ynghyd â’r ail-strwythuro cenedlaethol, mae’r Ganolfan wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, gan fwy na dyblu yn y pum mlynedd ddiwethaf. Cyflogir Cyfarwyddwr Rheoli, Cyfarwyddwr Dysgu, 2 Brif Diwtor ac 11 o Diwtoriaid Llawn-amser, ynghyd â Derbynnydd, Swyddog Data, Swyddog Ymrestriadau, Swyddog Cyllid, Gweinyddydd y Ganolfan, Swyddog Marchnata, Swyddog Technoleg Gwybodaeth, a Swyddog Ymchwil. Cyflogir hyd at 35 o diwtoriaid rhan-amser.

Pwy yw Pwy?

Pennaeth Ysgol y Gymraeg - Yr Athro Sioned Davies
Cyfarwyddwr y Ganolfan - Dr Rachel Heath-Davies - Heath-DaviesR@cf.ac.uk (029) 2087 6554
Cyfarwyddwr Dysgu - Dr Adrian Price - PriceA9@cf.ac.uk (029) 2087 6590


Staff Dysgu

Prif Diwtoriaid

Gareth Kiff - KiffG@cf.ac.uk - (029) 2087 6452
Elaine Senior - SeniorEM@cf.ac.uk - (029) 2087 9318

Tiwtoriaid Hŷn/Senior Tutors

Carole Bradley (Hyfforddiant/Training) - BradleyC1@cf.ac.uk - (029) 2087 6149

Swydd i’w llenwi

(Adnoddau a Gweithgareddau Allgyrsiol/Resources and Extracurricular Activities) (029) 2087 6451
Geoff Wright (Cymuned a Rhieni/Community and Parents) - WrightG@cf.ac.uk - (029) 2087 6451
Anna Tiplady (Cwricwlwm) - TipladyA@cf.ac.uk - (029) 2087 6451