# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Canolfan Cymraeg i Oedolion y De-Orllewin

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y De-Orllewin yn gwasanaethu siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro. Trwy weithio gyda nifer o bartneriaid yn y siroedd hyn, mae’r Ganolfan yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau ar draws y rhanbarth.


Tel: 01792 602 070
E-bost: cymraegioedolion@abertawe.ac.uk
http://www.dysgucymraegdeorllewin.org

Pwy yw staff y ganolfan hon?
Rebecca Jones Rebecca Jones, Cynorthwy-ydd Ysgrifenyddol – y llais cyntaf y bydd y rhan fwyaf sy’n cysylltu â’r Ganolfan yn ei glywed gan mai hi sy’n gyfrifol am y brif linell ffôn ymholiadau. Siân Elizabeth Thomas Siân Elizabeth Thomas, Rheolwr Busnes – yn gyfrifol am reoli agweddau gweinyddol ar waith y Ganolfan, gan gynnwys gwaith yn gysylltiedig â chytundebau trydydd-parti. Sian sy’n rheoli’r gweithdrefnau ar gyfer casglu data ac adrodd ar ddata a gasglwyd ac yn cynorthwyo gydag agweddau eraill ar waith y Ganolfan, gan gynnwys marchnata. Aled davies Aled Davies, Cyfarwyddwr - yn gyfrifol am arwain a rheoli holl weithgareddau’r Ganolfan. Bydd yn darparu arweiniad strategol ar gyfer y Ganolfan ac yn arwain yr agenda o newid. David Morgan David Morgan, Tiwtor/Drefnydd Cymraeg yn y Gweithle – yn arwain darpariaeth y ganolfan i weithleoedd a datblygiad y gwasanaeth hwn. sTEVE mORRS Steve Morris, Darlithydd mewn Addysg Barhaus – yn gweithio ddeuddydd yr wythnos i’r Ganolfan yn arwain datblygiad strategaeth ymchwil genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion a datblygiad gweithgaredd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn unol ag amcanion y strategaeth honno. Siân Thomas Siân Thomas, Tiwtor/Drefnydd – yn gyfrifol am ddarpariaeth ddwys ac uwch yn ardal Gorllewin Abertawe ac yn rhoi arweiniad ar achredu.
Helen Evans Helen Evans, Tiwtor/Drefnydd – yn gyfrifol am ddarpariaeth ddwys ac uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot. Caryl Clement Caryl Clement, Prif Diwtor/Drefnydd – yn arwain tîm tiwtor/drefnyddion y Ganolfan ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth ddwys ac uwch yn Nwyrain Sir Gâr. Lowri Gwenllian Lowri Gwenllian, Tiwtor/Drefnydd – yn gyfrifol am y ddarpariaeth yn Nhŷ Tawe a dwyrain y ddinas. Chris Reynolds Chris Reynolds, Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd - yn gyfrifol am sefydlu a gweithredu cyfundrefn sicrhau ansawdd ar gyfer yr holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn y rhanbarth a chynllunio darpariaeth hyfforddiant i diwtoriaid ar sail yr anghenion a adnabyddir. Mark Stonelake Mark Stonelake, Swyddog Cwricwlwm ac Adnoddau - yn arwain datblygiadau o ran y cwricwlwm Cymraeg i Oedolion yn y De-orllewin gan gynnwys datblygu adnoddau i gefnogi’r cyrsiau a ddarperir. Islwyn Morgan Islwyn Morgan, Rheolwr Swyddfa – ein ‘troubleshooter’ – mae’n gyfrifol am gefnogi’r Cyfarwyddwr a sicrhau bod swyddfa’r Ganolfan yn rhedeg yn esmwyth. Julie davies Julie Davies, Cynorthwy-ydd Ysgrifenyddol – yn darparu cymorth gweinyddol i gefnogi’r cyrsiau a gynhelir gan y Brifysgol yn uniongyrchol. Dewi Rhys-Jones Dewi Rhys-Jones, Tiwtor/Drefnydd – yn gyfrifol am ddarpariaeth ddwys ac uwch yn Sir Benfro.