#
Dysgu Tasg-ganolog

Y dull tasg-ganolog yw’r dull sydd wedi effeithio fwyaf ar ddysgu Basgeg yn ddiweddar, a’r syniad sydd wrth wraidd y dull yw bod dysgwyr yn dysgu’n well os yw eu meddyliau’n canolbwyntio ar wneud tasg yn hytrach nag ar ddefnyddio ffurfiau a chystrawennau cywir.

Cwblhau’r dasg yw nod y wers – waeth pa batrymau iaith a ddefnyddir gan y dysgwyr i gyflawni hynny. Nid oes patrymau targed yn perthyn i’r tasgau. Ni chywirir y dysgwyr wrth iddynt wneud y dasg.

Mae’r dull hwn yn fodd, yn ôl ei ladmeryddion, i hybu

  • Dysgu gwahaniaethol – mae modd ymateb i anghenion dysgu unigol
  • Paratoi ar gyfer cyfathrebu go iawn
  • Defnydd o ddefnyddiau dilys
  • Siarad cyhoeddus
  • Dysgu adlewyrchol

Rhoddir pwyslais ar siarad yn gyhoeddus yn eitha buan yn y cwrs, yn gyntaf o flaen y dosbarth, ac yna wrth i hyder y dysgwr gynyddu, o fewn sefyllfaoedd allgyrsiol neu gymdeithasol. Mae’n amlwg eu bod yn ceisio diwallu anghenion go-iawn y dysgwyr yn hytrach na gweithredu mewn rhyw wagle ieithyddol.

Rhoddir cryn bwyslais ar weithgareddu allgyrsiol ac ar roi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

Yr hyn a grybwyllwyd dro ar ôl tro oedd pa mor bwysig oedd rhoi profiadau dilys o iaith i’r dysgwyr – roedd hyn yn ei dro yn cymell y dysgwr i ddefnyddio’r iaith boed yn oddefol neu’n weithredol.

Adlewyrchir hyn yn y deunyddiau gwrando a darllen a ddefnyddir; gan fod sefyllfa’r wasg Fasgeg yn un mor gryf, gyda 3 phapur newydd yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd, defnyddir deunyddiau darllen cyfredol yn y gwersi. Wrth ymarfer y sgil o wrando, hefyd, mae’r pwyslais yn bendant ar ddefnyddio deunydd dilys, cyfredol o raglenni amrywiol a newyddion ar y radio. Roeddem yn cenfigennu at y ffaith bod staff yn cael eu cyflogi yn arbennig at y dasg o ddarganfod, recordio a sgriptio eitemau o’r wasg a’r radio.


Arsylwi Dosbarthiadau

Cawsom gyfle, ac i fod yn onest, y fraint o gael mynychu dosbarthiadau mewn Ysgol Fasgeg er mwyn arsylwi’r dysgu. Does dim arsylwi nac arfarnu ffurfiol yn digwydd yn rheolaidd yma – mae HABE yn ofalus iawn o’u tiwtoriaid ac yn gwrthod eu rhoi o dan unrhyw bwysau ychwanegol. Cawsom brofiad o amrywiaeth o lefelau gwahanol, o ddechreuwyr hyd at loywi, ac ‘roedd rhai o’r dosbarthiadau yn fwy diddorol na’i gilydd i’w gwylio, ond wrth gwrs anodd yw cael darlun cyflawn wrth weld rhyw hanner awr o ddysgu’n unig. Ond un peth a’n trawodd ni, yn anad dim efallai, oedd y ffaith nad oedd y Sbaeneg yn cael ei defnyddio o gwbl fel cyfrwng dysgu – hynny yw, y Fasgeg oedd iaith pob dosbarth ar bob lefel.

Er yr holl adnoddau sydd ynghwm wrth ddysgu‘r Fasgeg, syndod oedd sylwi bod adnoddau’r dosbarth yn eitha cyntefig – bwrdd du a sialc yn amlach na dim.


Gwersi Basgeg i ni’r Cymry

Roedd y rhain yn gyfle gwych i ni fel tiwtoriaid gael ein rhoi yn uniongyrchol yn sefyllfa’r dysgwr. Cawsom deimlo panig am nad oeddem yn gyfarwydd â seiniau’r wyddor e.e. bod x yn swnio fel sh ac ati, a theimlo cywilydd o flaen cyd-weithwyr!

Cawsom ein dysgu drwy gyfrwng yr iaith darged yn unig, ‘roedd hyn yn hynod werthfawr i ni ac yn dyngedfennol o safbwynt cael dealltwriaeth well o natur a chyflawniadau dysgwyr y Fasgeg. Rhaid cofio ein bod ni yn ddechreuwyr pur yn ceisio ymbalfalu yn y tywyllwch, ond bod y mwyafrif o ddysgwyr y Fasgeg yn bobl frodorol, yn gyfarwydd â’r seiniau, wedi eu magu yn clywed yr iaith, ac wedi dod ar ei thraws yn yr ysgol.

Roedd y profiad a gafwyd o’r gwersi yn fodd uniongyrchol o ddysgu am y fethodoleg a ddefnyddia’r tiwtoriaid, doedd fawr ddim drilio patrymau, ac eithrio drilio brawddegau’n barotaidd er mwyn sefydlu‘r ynganiad cywir, ac roedd yr holl ddysgu’n seiliedig ar dasgau – fel y crybwyllwyd eisioes, ystyrir hyn fel y dull gorau i annog myfyrwyr i gymryd risg, ac i siarad yr iaith o’r dechrau un.