# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
Bangor
O’r chwith i’r dde: Ellen Roberts, Ifor Gruffydd,
Ceri Llwyd, Iwan Davies, Gari Smith
Bangor
Canolfan Ranbarthol Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru

Sefydlwyd Canolfan Ranbarthol Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru ar 1 Ebrill 2006 ac mae’n gyfrifol am y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled gogledd Cymru. Hon yw’r ardal sy’n cynnwys Ynys Môn, Gwynedd (ac eithrio Meirionnydd) a Chonwy yn y gorllewin, a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain. Golyga hyn diriogaeth o Ben Llŷn yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain, a chyn belled â Meirionydd a ffiniau gogleddol Maldwyn tua’r de.

Ar hyn o bryd, mae prif safle’r Ganolfan ym Mharc Menai, Bangor. Lleoliad dros dro yw hwn ac mae’r Ganolfan yn disgwyl i gartref parhaol gael ei ddatblygu mewn lleoliad mwy canolog ym Mangor, i’w rannu gyda Chanolfan Bedwyr. Dyma fydd y pwynt canolog ar gyfer gweithgareddau Cymraeg i Oedolion (CiO) yng Ngogledd Cymru.

Hefyd mae gan y ganolfan swyddfa ranbarthol yn Llanelwy lle mae dau aelod o’r staff wedi eu lleoli’n barhaol ac mae hyblygrwydd i holl staff y Ganolfan weithio yn y naill leoliad neu’r llall yn ôl yr angen.

Pwy yw pwy yng Nghanolfan y Gogledd?

Ifor Gruffydd – Pen bandit. Gelwir ef hefyd yn Gyfarwyddwr Canolfan y Gogledd. Yng ngeiriau Ifor, mae o’n gyfrifol am “geisio cadw trefn ar bethau” yn y Ganolfan er fis Tachwedd 2006. Mae hynny’n cynnwys bod â chyfrifoldeb dros arweiniad strategol, rheolaeth gyllidol, cytundebau rhanbarthol, rheoli data a sicrhau ansawdd.

Ei hoff CD yw 2112 gan Rush, a phe bai raid iddo ddysgu un sgìl newydd eleni byddai’n hoff o ddysgu mynd mewn kayak. Pob lwc Ifor! i.gruffydd@bangor.ac.uk 01248 382929


Iwan Davies yw Cynorthwyydd Personol Ifor, ac felly pan nad yw adref yn gwrando ar ei CD Toga gan Bryn Fôn, ef sy’n gyfrifol am gefnogi’r Cyfarwyddwr gyda gwaith gweinyddol a chydlynu gwaith gweinyddol y Ganolfan. Mae Iwan wedi ei leoli ym Mangor a’i hoff air Cymraeg yw ANSBARADIGAETHUS! iwan.davies@bangor.ac.uk 01248 382829


Haydn Hughes yw’r Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd ac felly mae’n arwain a rheoli rhaglen hyfforddi tiwtoriaid y Ganolfan, a monitro a gwella ansawdd y ddarpariaeth ar draws y rhanbarth. Mae Haydn wedi ei leoli ym Mangor. h.hughes@bangor.ac.uk 01248 383209


Jina Gwyrfai a Pam Evans-Hughes yw’r Swyddogion Datblygu. Y nhw sy’n datblygu, hyrwyddo a chydlynu rhwydwaith o gyrsiau Cymraeg o bob math (cymunedol, gweithle a’r teulu, cyrsiau dwys, darnynol, bloc a phreswyl) gan ddarparwyr lleol gan sicrhau cyfleoedd dysgu, dilyniant a gweithgareddau allgyrsiol i ddysgwyr ym mhob rhan o’r ardaloedd.

Mae Jina wedi’i lleoli ym Mangor ac yn gwasanaethu gorllewin rhanbarth y gogledd ac mae Pam, sydd wedi’i lleoli yn Llanelwy, yn gwasanaethu dwyrain rhanbarth y gogledd.

Yn ôl Jina, pe bai’r iaith Gymraeg yn anifail, cath fyddai – oherwydd ei hanwyldeb, ei hysbryd annibynnol…a’r naw bywyd!

Jina Gwyrfai: j.gwyrfai@bangor.ac.uk 01248 383060

Pam Evans-Hughes: p.evans-hughes@bangor.ac.uk 01745 536000


Gary Smith ydi’r dyn compiwtars – neu’r Rheolwr Data i roi ei deitl swyddogol iddo! Ef sy’n sefydlu a chynnal systemau casglu a gwirio data’r Ganolfan, cydweithio’n agos â holl ddarparwyr y rhanbarth a rheoli defnydd cyffredinol y Ganolfan o dechnoleg gwybodaeth. Mae Gary wedi ei leoli ym Mangor ac yn ‘dallt y dalltings’ technegol i gyd. g.smith@bangor.ac.uk 01248 388757


Ellen Roberts yn Llanelwy a Ceri Llwyd ym Mangor, Ysgrifenyddesau’r Ganolfan, yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd. Mae’r ddwy yn rhan o’r tîm ers Tachwedd 2006 ac maent yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un allanol sy’n cysylltu â’r Ganolfan, a hefyd yn rhoi cefnogaeth fewnol i’r staff.

Byddai Ellen yn hoff o allu tynnu llun – o Jac, ei hŵyr bach 8 oed efallai. Allai Ceri ddim byw heb ei ffôn meddai hi – na’i CD Westlife a risotto da o bryd i’w gilydd!

Ellen Roberts ellen.roberts@bangor.ac.uk 01745 536014

Ceri Llwyd: c.llwyd@bangor.ac.uk 01248 383928