Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl gwent

Ar y 5ed o Chwefror daeth dros 45 o diwtoriaid o Dde Cymru i’r hyfforddiant cyntaf a gynhaliwyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cwrs newydd, Cymraeg o’r Crud.  Trefnwyd y diwrnod gan Ffion Green, Swyddog Datblygu CiT Canolfan Gwent, a hi hefyd fu’n cyflwyno’r hyfforddiant. Cafwyd hefyd sesiwn gan Catrin Saunders o TWF a sesiwn allweddol gan Jina Gwyrfai o Ganolfan Gwent.

Y bwriad oedd manteisio ar yr hyfforddiant i gyflwyno cwrs newydd ym maes Cymraeg i’r Teulu i bob diwtor. Cafodd y cwrs, sef Cymraeg o’r Crud, ei lansio yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent y llynedd. 

Prif nod yr hyfforddiant oedd rhannu gwybodaeth am y cwrs, rhoi cyfle i diwtoriaid drafod sut i ddysgu dosbarth gyda phlant yn bresennol ac i ddod ynghyd i rannu profiadau ac arfer dda. Un o’r ymarferion mwyaf buddiol oedd cynnull grwpiau i gydweithio i ysgrifennu cynlluniau gwersi ar gyfer y sesiynau gwahanol. Gobeithio bydd y cynlluniau yma’n werthfawr i bawb wrth iddynt ddysgu’r cwrs.

Roedd hi’n dipyn o gamp trefnu sesiynau llawn ac amrywiol o fewn amserlen undydd ond cafwyd nifer o syniadau gan y tiwtoriaid eu hunain ac esgorodd hynny ar ddigon o drafodaethau trwy gydol y dydd.

Llwyddwyd i roi blas i diwtoriaid o’r gwahanol sesiynau sy’n rhan o’r cwrs Cymraeg o’r Crud, a’u gwneud yn fwy ymwybodol o’r gynulleidfa darged.

Os am fwy o fanylion am y cwrs, cysylltwch â
Ffion.green@coleggwent.ac.uk

llun gwentllinell