Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Newyddion Morgannwg

llinell

dysgu anffurfiol
Yn dilyn ymddeoliad Shân Morgan fel Swyddog Dysgu Anffurfiol, penodwyd Ifan Dylan.  Dyma ychydig o eiriau gan y dyn ei hun:

Er mai dim ond ers cwta deufis yr ydw i wedi bod yn gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion, un peth sydd wedi fy nharo i’n syth yw mai dim ond hanner y frwydr i unrhyw ddysgwr yw dysgu’r iaith. Ei defnyddio’n gymdeithasol a chymathu yn y gymuned Gymraeg yw’r hanner arall, rhywbeth sydd yn llawer anoddach nag mae’n swnio. Gall hyn ddibynnu ar y cyfleoedd sydd yna mewn ardal, neu ar barodrwydd siaradwyr rhugl i groesawu dysgwyr i’w mysg. Ond yn bennaf oll, mae’n dibynnu ar hyder personol y dysgwr i fynd allan a defnyddio’r iaith. I ddysgwr, mae gwahaniaeth enfawr rhwng diogelwch cocŵn dosbarth Uwch neu Hyfedredd, a ffau llewod Merched y Wawr a’u tebyg. Efallai bod y fath gyffelybiaeth yn codi gwên i ni’r siaradwyr rhugl, ond i ddysgwyr, mae mynd i gymdeithas estron o’r fath i siarad eu hail iaith am y tro cyntaf ar eu pen eu hunain yn gallu bod yn brofiad brawychus. A dyma lle yn ddi-os, hyd y gwelaf i, y daw pwysigrwydd dysgu anffurfiol i’r adwy. Mae’n fan sydd hanner ffordd rhwng y dosbarth a’r byd go iawn, sydd wedi ei gynllunio’n unswydd ar gyfer rhoi’r cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn sefyllfa gymdeithasol oddefol. Ac yn ystod fy amser byr yn gweithio gyda dysgwyr Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, rydw i wedi gweld pa mor werthfawr yw hyn i ddysgwyr, ac faint maen nhw’n ei werthfawrogi.

 

llinell

itunes glampodlediadau

Mae Prifysgol Morgannwg wedi dathlu’r ffaith bod miliwn o bobl wedi ymweld â’i safle itunes-u. Cynigir dros 50 o bynciau gwahanol a chyhoeddwyd y 10 Uchaf (y deg mwyaf poblogaidd) adeg dathlu’r miliynfed ymweliad.  Roedd podlediadau lefel Mynediad a Sylfaen yn y Ganolfan yn y chweched safle.  Rydym wrth ein boddau bod cymaint o bobl yn eu cyrchu.  Os ydych chi eisiau gwrando arnyn nhw, y cyfeiriad yw http://itunes.glam.ac.uk.

 

llinell

llun MaldwynCardiau Fflach Digidol
Yn dilyn ymchwil Steve Morris ym Mhrifysgol Abertawe ar ddatblygu rhestri geirfa greiddiol ar gyfer lefel Mynediad a Sylfaen, mae Dr Maldwyn Pate wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu cardiau fflach digidol ar gyfer eu lawrlwytho i ffonau symudol. Trefnir yr eirfa fesul thema e.e. rhannau’r corff, anifeiliaid, y tywydd.  Gwobrwywyd ei waith datblygu gan Brifysgol Morgannwg trwy ddyfarnu grant i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach.  Gobeithir y bydd yn bosib llwytho nifer o’r cardiau fflach hyn adeg lansio’r Moodle cenedlaethol.


llinell