Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Newyddion y Canolbarth

cymraeg o'r crud
llinell

llun cymraeg o'r crud
Mae’r cwrs Cymraeg o’r Crud ar gyfer rhieni gyda phlant bach. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal am awr a hanner unwaith yr wythnos. Mae’r cwrslyfr yn cyflwyno’r math o iaith sy’n cael ei defnyddio bob dydd rhwng rhiant a’i phlentyn. Mae’n cynnwys geirfa a phatrymau iaith fel cyfarchion, lliwiau, rhifau, anifeiliaid, dillad, y tywydd, gorchmynion ac yn y blaen.

Mae’r cwrs yn boblogaidd iawn! Daeth 16 o oedolion a 18 o blant i’r dosbarth cyntaf yn Y Morlan yn Aberystwyth! Mae’r ‘myfyrwyr’ yn frwdfrydig iawn ac mae’r sesiynau’n llawn hwyl. Mae’r rhieni’n mwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg gyda’u plant trwy ganu, chwarae gyda phypedau, dawnsio a chwarae gemau. Oherwydd bod cymaint o blant bach yn y grŵp roedd rhaid i fi addasu’r ffordd dw i’n cyflwyno’r iaith er mwyn cadw diddordeb pawb am y sesiwn gyfan o awr a hanner!

Fel arfer dyn ni’n dechrau gyda chân syml e.e. ‘Prynhawn da, sut wyt ti?’ Mae’r plant yn mwynhau trefn ac mae’n atgyfnerthu’r patrymau sylfaenol bob wythnos. Wrth gyflwyno’r Gymraeg, mae’n bwysig esbonio’r patrymau mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i’r oedolion ac mewn ffordd sy’n gyffrous i’r plant.

Fel arfer, dw i’n treulio ychydig o amser yn ysgrifennu patrymau ar y bwrdd gwyn, drilio ac ateb cwestiynau gramadegol. Wedyn dyn ni’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau lle mae’r rhieni’n gallu defnyddio’r patrymau gyda’u plant. Dyn ni’n cyfrif yn defnyddio swigod a pheli. Dyn ni’n creu a thrafod y tywydd trwy ddawnsio gyda sgarffiau a gwneud symudiadau. Dyn ni’n chwarae gyda phypedau er mwyn ymarfer cyfarchion. Dyn ni’n gwisgo lan er mwyn dysgu geirfa ddillad. Mae llawer o ganeuon bywiog yn y cwrslyfr sy’n atgyfnerthu’r patrymau hefyd, felly mae’r sesiynau’n gyffrous a llawn hwyl!

Dw i’n credu bod y cwrs yn llwyddiannus iawn oherwydd bod y rhieni’n mwynhau dysgu Cymraeg gyda’u plant mewn ffordd hwyliog. Dw i’n edrych ymlaen at barhau â’r sesiynau!

Zoe Pettinger

 

llinell