Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun helen pendry








Daw Helen o Fanceinion yn wreiddiol ond cafodd ei mam ei geni a’i magu ym Methesda. Mae’n byw erbyn hyn ym Machynlleth gyda’i gŵr a’i phlant, sef Cerys sy’n 8 oed a Huw sy’n 6 oed. Cafodd ei haddysg ym Manceinion ond pan yn 16 oed treuliodd ddwy flynedd yng Ngholeg Yr Iwerydd yn New Mexico, UDA. Yno, am y tro cyntaf yn ei bywyd, daeth i gysylltiad â llawer o ddiwylliannau gwahanol gan sylweddoli bod nifer fawr o wahaniaethau’n bodoli. Dysgodd ddwy iaith wahanol, Ffrangeg a Sbaeneg, a chafodd brofiadau goleuedig.

Dychwelodd o’r UDA ac aeth ymlaen i goleg yn Llundain i astudio Anthropoleg Gymdeithasol. Roedd hynny’n gyfle i edrych yn fanylach ar ddiwylliannau gwahanol ac ar nifer o ffactorau megis y cysylltiad rhwng diwylliant ac iaith, a sut mae pobl o wledydd gwahanol yn gweld y byd o’u cwmpas. Sylweddolodd yn syth fod Cymry yn gweld y byd mewn ffordd wahanol iawn i bawb arall!

Ar ôl gadael coleg, aeth i weithio gyda phobl ddi-gartref yn Llundain cyn symud i Fanceinion. Cafodd gyfle i weithio ar broject cyffrous iawn, sef ‘Encyclopedia of 20th Century British and Irish Political Parties, Groups and Movements.’ Roedd Helen yn gyfrifol am agweddau penodol ar yr ymchwil, ac ymysg y rheini oedd lleiafrifoedd, merched, heddwch a phopeth yn ymwneud â Chymru. Cafodd y cyfnod hwnnw effaith fawr arni ac mae’n cydnabod mai wrth gwblhau’r gwaith hwn y darganfu ei threftadaeth. Wrth ddod i wybod mwy am y bygythiadau i gymunedau Cymraeg a’r frwydr i gadw a defnyddio’r Gymraeg, y teimlodd yr ysfa i adfer hen iaith ei mam.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym Manceinion gan barhau pan symudodd gyda’i theulu i Fachynlleth dair blynedd yn ôl. Mae Helen wedi llwyddo yn yr arholiad Sylfaen a’i bwriad yw sefyll arholiad Canolradd y flwyddyn nesaf. Mae’n amlwg ei bod hi wedi ymrwymo’n llwyr i’w dosbarthiadau Cymraeg er bod ei hamser yn brin. Erbyn hyn, mae Helen yn gweithio i’r Brifysgol Agored fel tiwtor ysgrifennu creadigol ac mae hi hefyd yn diwtor ar y cwrs Llenyddiaeth Plant. Gan mai gwaith ar-lein ydyw fwyaf, mae hi wir yn gwerthfawrogi cwmnïaeth, hwyl a chyfeillgarwch y dosbarth Cymraeg.

Fel ei thiwtor, mae cerddoriaeth hefyd yn bwysig i Helen, ac mae hithau’n canu’r piano ac yn mwynhau canu. Pan ym Manceinion, arferai berfformio a chanu’n gyson e.e. gyda pherfformwyr celf ac arlunwyr. Mae hynny wedi parhau ers cyrraedd Cymru gan ei bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ganu cân unigol yn yr Eisteddfod eleni. Mae’r ddysgwraig hamddenol hon hefyd yn mwynhau barddoniaeth ac ysgrifennu straeon Saeneg. Mawr yw ei gobaith y daw’r amser pan fydd yn medru ysgrifennu straeon Cymraeg hefyd!

Yn bendant, mae bywyd Helen wedi newid ers dysgu Cymraeg. Iddi hi, y peth gorau oll am allu siarad Cymraeg yw integreiddio a bod yn rhan o fywyd cymdeithasol yr ardal. Yr ail beth gorau yw medru gwylio’r rhaglen ‘Byw yn yr ardd!’

 

llinell