Newyddion Canolfan Morgannwg
Brecwast Busnes
Cynhaliwyd Brecwast Busnes ar gyfer cyflogwyr er mwyn hyrwyddo dosbarthiadau Cymraeg yn y Gweithle yng Ngwesty Parc Treftadaeth y Rhondda ddiwedd mis Tachwedd. Daeth 14 o gyflogwyr gwahanol i wrando ar anerchiadau gan gyflogwyr sydd eisoes yn cynnal gwersi yn y gweithle, ac i ddod i wybod mwy am y canllawiau hyfforddiant newydd a gyhoeddwyd y llynedd. Yr hyn y ceisir ei ddangos yw’r angen i fod o ddifrif am hyfforddiant – ei bod yn bosib gwneud gwahaniaeth ond bod angen ymrwymiad o du’r Ganolfan a’r cyflogwr. Costiodd y digwyddiad tua £1000 ac amser a ddengys a fydd yn dwyn ffrwyth. Ar y llaw arall, gall fod yn gostus iawn rhoi hysbyseb mewn papur newydd ac ystyriwyd y brecwast hwn yn ddull gwahanol o farchnata.
Deunyddiau
Mae maes iechyd yn uchel ar yr agenda ar hyn o bryd ac mae un o staff y Ganolfan, Jane Davies, wrthi’n gweithio trwy werslyfr Mynediad yn addasu rhai o’r gweithgareddau, yn ychwanegu geirfa byd iechyd, ac yn cyflwyno ambell i ddril newydd o fewn cyd-destun maes iechyd.
Dyma enghraifft o ddwy ddeialog y mae wedi’u paratoi:
Deialog yn yr ysbyty (Uned 2 CBAC)
A: Bore da. Nyrs Bevan dw i. Pwy dych chi?
B: Mrs Williams. Mair Williams. Sut dych chi, Nyrs Bevan?
A: Da iawn, diolch. Ond sut dych chi y bore ’ma?
B: Gweddol, diolch.
A: Braf cwrdd â chi, Mrs Williams. Arhoswch yma am Doctor Jones, os
gwelwch yn dda!
Geirfa:
ond - but
arhoswch yma - wait here
os gwelwch yn dda - please
Deialog yn y feddygfa (Uned 3 CBAC)
Derbynnydd: Wel helo Mrs Jones. Sut dych chi heddiw?
Mrs Jones: Eithaf da, diolch. Sut dych chi?
Derbynnydd: Da iawn, diolch. Beth yw’ch enw cyntaf, Mrs Jones?
Mrs Jones: Nia. Nia Jones
Derbynnydd: A ble dych chi’n byw nawr?
Mrs Jones: Dw i’n byw yn y Porth
Derbynnydd: Beth yw’ch cyfeiriad chi?
Mrs Jones: 3, Station Terrace, Llwyncelyn
Derbynnydd: Dych chi’n gweithio o hyd?
Mrs Jones: Ydw, dw i’n gweithio fel nyrs yn ysbyty Llwynypia.
Derbynnydd: Diolch, Mrs Jones. Eisteddwch. Chi sy nesaf!
Geirfa:
Eisteddwch - Sit down!
Chi sy nesaf - You’re next!