Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Blog Brenhinol - llun Will WilliamsEr mai rhaglen yn arbennig ar gyfer y Nadolig a gafwyd gan deulu Royle y Nadolig hwn, mae modd dilyn hynt a helyntion Jim Royle am gyfnod hirach na hynny!

Yn dilyn colli ei wraig yn ddiwedddar, penderfynodd Will Williams (sydd yn adnabyddus am fod yn debyg i’r actor Jim Royle ar y rhaglen deledu boblogaidd ‘The Royle Family’) ei fod am roi rhywbeth yn ôl i gymuned Caernarfon a fu mor gymwynasgar tuag ato yn ystod y cyfnod anodd - a hynny drwy ddysgu Cymraeg!

Er mwyn i bawb gael dilyn ei hanes yn dysgu’r iaith, mae Will yn blogio’n gyson ar www.roylewelsh.com. Mae’n awyddus iawn i geisio cael dysgwyr, ynghyd ag eraill sydd â diddordeb mewn dysgu’r iaith, i ddilyn ei daith yn ogystal â’u hysgogi i ddysgu’r iaith eu hunain. Dywedodd Will, ‘dw i wrth fy modd yn rhannu fy mhrofiadau â phawb am ddysgu Cymraeg, ac yn gobeithio y gallaf gael mwy o bobl i sylweddoli pa mor bwysig, hwyliog a di-boen ydi’r broses.’

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn awyddus i ddefnyddio mwy o gyfryngau sydd ar gael ar y rhyngrwyd ac annog dysgwyr i wneud defnydd ohonynt. Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ‘mae cymaint o ddefnydd yn cael ei wneud o’r cyfryngau cymdeithasol y dyddiau yma ac mae’n bwysig ein bod yn gallu gwneud y defnydd mwya’ ohonynt. Bydd dysgwyr yn dilyn ymdrech Will, a gobeithio y bydd hyn yn creu mwy o ymwybyddiaeth am y broses o ddysgu ac ymarfer y Gymraeg!’

parwm dotiauMagwyd Will y tu allan i Gymru, ond mae wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ers 25 mlynedd bellach, ac yn cadw busnes Gwely a Brecwast, ‘Tŷ Hapus,’ yn y dref. Mae’r rhan fwyaf o bobl yr ardal yn ei adnabod am yr holl waith diflino mae’n ei wneud i gasglu arian i wahanol elusennau yn yr ardal. 

Dilynwch ymdrech Will ar www.roylewelsh.com

 

llinell