Tyrrodd 3,631 o bobl i Ganolfan y Mileniwm ddydd Sadwrn, 16 Mai, i ddathlu Gŵyl BayLingo – gŵyl a drefnwyd yn arbennig i roi cyfle i bobl Caerdydd a Bro Morgannwg i ddysgu, ymarfer a mwynhau’r Gymraeg.
Daeth BayLingo ag Wythnos Addysg i Oedolion i ben mewn steil gyda llif di-ddiwedd o bobl yn dod i fwynhau adloniant megis canu, syrcas a chomedi ac i gymryd rhan mewn gweithdai ioga, dysgu caneuon poblogaidd Cymraeg a dysgu dweud jôcs yn Gymraeg.
Ynghanol y bwrlwm gwelwyd Humphrey James, y dysgwr a’r perfformiwr o Covent Garden, yn cyfuno comedi’n wych â thriciau anhygoel megis llyncu raseli a dianc o straightjacket a chyffion.
Cafwyd cerddoriaeth fyw a gweithdy canu gan Heather Jones a Stacey Blythe a daeth ysgolion Melin Gruffydd a Sant Curig ac Aelwyd Waun Ddyfal i roi blas o’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn Eisteddfod yr Urdd ymhen yr wythnos.
Trefnwyd Bay Lingo ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a phawb sydd eisiau dysgu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg mewn partneriaeth â Chanolfan y Mileniwm a’r Urdd. Yn ogystal â’r sefydliadau hyn, cafwyd stondinau gan y BBC, Twf, Mudiad Ysgolion Meithrin, Golwg, Awen, Red Dragon FM, Menter Caerdydd a Barefoot Books er mwyn arddangos yr amrediad eang o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ar 029 2087 4710 neu cliciwch ar www.learnwelsh.co.uk