# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
gog1.jpg
Mae côr o oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor wedi ennill un o brif wobrau Eisteddfod Môn. Enillon nhw’r gystadleuaeth i gorau dan 30 o leisiau, ac yn sgil eu perfformiad ardderchog enillodd eu harweinydd, Elwyn Hughes, y baton aur sy’n cael ei roi i arweinydd gorau’r ŵyl.

Mae’r côr wedi cael tipyn o lwyddiant ers ei sefydlu yn 2005 ar gyfer Eisteddfod y Faenol. Yno enillodd y côr y gystadleuaeth i Gorau Dysgwyr ac ailadrodd y gamp yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007. Llynedd, penderfynodd y côr fentro i gystadlu yn erbyn corau o Gymry Cymraeg am y tro cynta. "Roedden ni tipyn bach yn siomedig i ddod yn drydydd llynedd,” meddai Joan ac Andrew Knight (alto a thenor) o Borth Swtan, "felly roedden ni wrth ein boddau o gael ennill eleni. Roedd cystadleuaeth y corau’n dilyn seremoni coroni’r bardd gyda’r derwyddon i gyd yn eu gwisgoedd a’r plant lleol yn dawnsio dawns y blodau. Roedd hi’n fraint cael cymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg go iawn.”  

Dim ond ers blwyddyn mae Mark a Nikki Gillard (bas a soprano) o Benmynydd wedi symud i’r ardal. Maen nhw’n dilyn y Cwrs Wlpan ar hyn o bryd. "Dan ni’n mwynhau canu beth bynnag, ond achos bod yr ymarferion i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r côr wedi ein helpu ni i symud ymlaen efo’r iaith hefyd.”

Mae pob un o aelodau’r côr yn, neu wedi, dysgu Cymraeg ar gyrsiau Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor. Yn ôl Elwyn Hughes, trefnydd y cyrsiau, mae’r ymarferion a’r Eisteddfodau eu hunain yn gyfle ardderchog i ddysgwyr ar bobl lefel ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth.” Dan ni’n dysgu pob math o ganeuon traddodiadol a chyfoes,” ychwanegodd Elizabeth Pearce (alto) o Fenllech, "ac yn dysgu llawer am hanes a diwylliant Cymru ar yr un pryd. Yn bwysicach na dim byd arall, dan ni’n cael llawer iawn o hwyl!”

Y cam nesa i’r côr fydd cystadlu yn Eisteddfod Llandegfan ar ddechrau Gorffennaf cyn troi am Eisteddfod Genedlaethol y Bala ar ddechrau Awst i geisio ennill cystadleuaeth Côr y Dysgwyr am y trydydd tro.


gog2.jpg

Cynhaliodd Canolfan y Gogledd ar y cyd â Chanolfan y Canolbarth  benwythnos toreithiog o hyfforddiant i ddarpar diwtoriaid  yng Ngwesty Parc Beaufort, Yr Wyddgrug ym mis Ebrill eleni. Roedd y sesiwn yn un o dri phenwythnos o hyfforddiant oedd â’r nod o gynnig mewnwelediad ymarferol i’r maes. Yn wir, yn ôl un darpar-dwitor, llwyddodd y profiad "i godi awch” arno i "fynd ati o ddifri!”

Mewn ymdrech i ymateb i’r galw, mae sesiynau cyffelyb o hyfforddiant i ddarpar-diwtoriaid wedi’u trefnu ar ffurf Ysgol Haf yng Nghanolfan Gynadledda Gregynog, Y Drenewydd, Gorffennaf 22-25.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gogledd Cymru ar 01248 383928 neu ebost s.davies@bangor.ac.uk

purpleline.jpg