Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun-huw edwards

Yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy lansiwyd adran newydd ym Mhrifysgol Abertawe gyda’r Ganolfan yn uno â’r Adran Gymraeg gan greu Academi Hywel Teifi.

Roedd Hywel Teifi yn gymeriad amlwg yn y byd Cymraeg a Chymreig dros y degawdau diwethaf ac roedd ganddo gyswllt agos â Phrifysgol Abertawe dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.

Fe’i penodwyd yn diwtor mewn llenyddiaeth Gymraeg yn yr Adran Efrydiau Allanol yn 1965 a’i benodi yn Athro ac yn bennaeth Adran y Gymraeg yn 1989. Yn ddiweddarach daeth yr Adran Efrydiau Allanol yn Adran Addysg Barhaus a hon oedd cartref cyntaf Y Ganolfan. Erbyn hyn mae gan y Ganolfan gartref newydd yn rhannu coridorau’r Academi gyda staff yr Adran Gymraeg.

Bydd yr Academi, trwy Brifysgol Abertawe, yn noddi darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol er cof am yr Athro. Gwahoddwyd yr Athro Geraint H Jenkins i draddodi’r ddarlith gyntaf ar ddydd Iau 5 Awst ar faes yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy. Ac yn dilyn y ddarlith, lansiwyd yr Academi yn ffurfiol yng nghwmni teulu a chyfeillion a chydweithwyr yr Athro Hywel Teifi.

Bydd yr Academi hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddwyn ynghyd ysgolheigion amlddisgyblaethol.

Mae Academi Hywel Teifi yn gymuned ddysgu ar gyfer pawb. Mae yma ddysgwyr newydd a thiwtoriaid iaith, myfyrwyr gradd ac ysgolheigion blaenllaw, a phawb yn ymroi i ddysgu, astudio a mwynhau’r diwylliant Cymraeg.

llinell