Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Canolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth

Cynhadledd i diwtoriaid y Canolbarth
Gregynog

Medi 10 – 11 2010

Daeth dros hanner cant o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion y Canolbarth ynghyd ar Fedi 10 – 11 i Gynhadledd Hyfforddi yng Ngregynog ger y Drenewydd. Croesawyd y tiwtoriaid ar ddechrau tymor fel hyn gan y Cyfarwyddwr, Siôn Meredith.

Y sesiwn gyntaf a gyflwynwyd oedd sesiwn o weithgareddau iaith gan Jim Wingate. Mae Jim yn athro iaith profiadol iawn sydd wedi dysgu a hyfforddi athrawon dros y byd i gyd. Cyflwynodd weithgareddau syml ond effeithiol gan ddefnyddio technegau adrodd stori. Rhoddodd llawer o syniadau i ni hefyd ar sut i osgoi siarad Saesneg yn y dosbarth.

Daeth Cyril Jones atom o Ganolfan Morgannwg i roi cyflwyniad ar y pecyn sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef ‘Dysgu drwy Lenyddiaeth’. Ceir enghreifftiau o ganeuon, darnau o farddoniaeth a rhyddiaith ar bob lefel yn y pecyn. Mae hwn yn adnodd hynod ddefnyddiol ac yn fodd o annog ein dysgwyr i ddarllen ac i werthfawrogi ein llenyddiaeth.

Owen Saer oedd y trydydd cyfrannwr, a rhoddodd flas i ni ar gwrs newydd CBAC, sef Cymraeg i’r Teulu, a fydd yn cael ei beilota yn ystod y misoedd nesa. Nos Wener cafwyd gwledd o ganu gyda Rhiain Bebb yn cyfeilio ac ambell i diwn gan Lowri Thomas Jones ar y corn!

Fore Sadwrn, cafwyd sesiwn ddiddorol iawn gan Haydn Hughes ar sut i ymgorffori gweithgareddau ADCDF yn ein gwersi, ac fel arfer cafwyd sesiwn llawn hwyl a symud, gyda digon o syniadau newydd i fynd yn ôl i’r dosbarth.

Rhoddodd Phyl Brake sesiwn ar ramadeg gydag elfennau o loywi iaith, a daeth Lowri Williams atom o’r BBC i edrych ar wefannau defnyddiol i ddysgwyr a thiwtoriaid. I gloi’r gynhadledd, cynhaliwyd fforwm drafod fywiog, lle cafodd yr holl diwtoriaid gyfle i fynegi barn ac i gyfrannu yn strategol at waith y Ganolfan.

llinell