# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009

  carlam1.jpg
Cynhaliwyd Cwrs Haf Prifysgol Abertawe ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn Sir Benfro o ddydd Llun yr 20fed o Orffennaf tan ddydd Gwener y 24ain o Orffennaf. Cynhelir y Cwrs Haf bob blwyddyn yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd, a chafwyd pedwar grŵp eleni ar gyfer sawl lefel, o ddechreuwyr pur i fyfyrwyr sydd wedi cyrraedd safon rhuglder da. Daeth dros dri deg o fyfyrwyr at ei gilydd ar y Cwrs eleni.

  rule8col.gif
  clonc1.jpg
Dydd Gwener 11/12/09
02:00 Cyrraedd porthladd Abergwaun
02:45 Llong yn gadael
06:15 Cyrraedd Rosslare wedyn bws neu drên i Ddulyn
Bws: 07:30, 08:00, 08:30, .....
Trên: 07:40, 13:00
Cyrraedd Dulyn amser cinio

Dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun yn Nulyn. Cwrdd bob bore wrth Molly Malone am 11:00

Nos Lun
17:00 ? Trên i Rosslare
21:15 Llong yn gadael
00:15 Cyrraedd Abergwaun (bore dydd Mawrth 15/12/09)

Stena  08705 707070
Llong yno ac yn ôl i gerddwyr: £52
Rhaid i chi wneud eich trefniadau
teithio a gwesty eich hunain.
Gallwch chi hedfan wrth gwrs.
Gallwch chi ddod yn ôl yn gynharach.

Cyswllt:
01437 776785

  rule8col.gif   
clonc3.jpg
Ddydd Sadwrn y 12fed o Fedi aeth grŵp o oedolion sy'n dysgu Cymraeg, gyda rhai Cymry, am Glonc o gwmpas Llys y Frân yn Sir Benfro. Mae sawl Clonc yn Sir Benfro bob mis sy'n rhoi cyfle i’r oedolion sy'n dysgu Cymraeg ddefnyddio’u Cymraeg gyda’r Cymry.

Am fanylion y Cloncie: 01437 776785 neu cloncfeistr@ycloncmawr.co.uk

clonc2.jpg