# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009

   Newyddion
   Canolfan
   y Canolbarth


Mae mis Medi fel arfer yn gyfnod hynod o brysur yma yn y Ganolfan, fel ym mhob Canolfan arall ledled y wlad, mae’n siwr, gyda’r holl waith dosbarthu prosbectws a chofrestru dosbarthiadau. Ond dyma ychydig o glecs o Ganolfan y Canolbarth.


Swyddog y Dysgwyr

Bydd Dafydd Wyn Morgan yn ein gadael ddiwedd y mis wedi treulio blwyddyn fel Swyddog y Dysgwyr a Dysgu Anffurfiol ym Meirionnydd. Gwnaeth Dafydd waith arbennig ar ran y Ganolfan ym Meirionnydd, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Diolch iddo fe am ei gyfraniad, a phob hwyl gyda Twm Siôn Cati!


Croeso Nôl

Croeso nôl i Lowri Jones i’n plith fel Swyddog Hyfforddi cynorthwyol - bu i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth wedi geni Tomos Gruffydd Iwan Jones. Mae’n debyg bod Tomos yn cysgu’n arbennig o dda, ac yn mwynhau hel tyrchod gyda’i dad!


Ffarwelio

Wrth groesawu Lowri yn ôl i swyddfa’r Canolbarth, ry’n ni hefyd yn colli Sharon, oedd yn gweithio yma dros gyfnod mamolaeth Lowri. Mae Sharon erbyn hyn wedi mynd i weithio gyda’r Cyngor Llyfrau, a hefyd ar fin priodi ddiwedd mis Medi. Pob hwyl a diolch i ti, Sharon.


Cynhadledd

Cynhaliwyd tridiau o gynhadledd i diwtor-drefnyddion ar y cyd gyda Chanolfan y Gogledd ganol mis Gorffennaf yn Llangollen, lle cafwyd amrywiaeth o sesiynau hyfforddi diddorol a gwerthfawr. Lluniau i ddod yn y rhifyn nesaf o’r Tiwtor!


   rule8col.gif