Galw Tiwtoriaid!
Ydych chi am ddysgu Cymraeg i Oedolion?
Mae cyfle i wneud hyn gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent ond mae tipyn o gystadleuaeth am waith nawr! Mae cwrs hyfforddi sy’n gwarantu gwaith yn tiwtora o leiaf un dosbarth yr wythnos ar gael.
Bydd y cwrs rhwng 6pm a 9pm bob nos Lun yng Nghanolfan Cymunedol The Highway, Cwmbrân o’r 01/11/10 hyd at 11/04/11 sef 19 sesiwn i gyd. Bydd o leiaf un cwrs dydd Sadwrn i’w drefnu yn y Gwanwyn yn cwblhau cyfanswm o 60 awr o sesiynau hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd ail flwyddyn y cwrs rhywbeth yn debyg.
Rhaid i bob myfyriwr ar y cwrs ddysgu dosbarth wythnosol, am gyflog, er mwyn cwblhau 75 awr o ymarfer dysgu yn ystod dwy flynedd y cwrs. Mae’n bosib hefyd y cewch gyflog hyfforddiant am wneud y cwrs hwn!
Dych chi’n gallu mynd ymlaen i gwblhau TAR/PGCE ar ddiwedd y cyfnod yma i fod yn athro go iawn, wedi croesi’r bont! Mae ffurflenni cais ar gael nawr.
Steffan Webb.
Rhaglen hyfforddiant
Medi 2009 - Pasg 2010
Dyma drefniadau hyfforddiant presennol
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent
am y cyfnod uchod.
Cofiwch nad oes disgwyl i bawb fynychu pob digwyddiad
Ond mae disgwyl i bawb fynychu rhywbeth
Edrychwch o dan ‘Targed’ i weld at bwy mae’r sesiwn wedi ei hanelu.
Dewiswch bynciau sy’n mynd i fod yn help i chi yn eich gwaith chi – efallai awgrymiadau o’ch hunan asesiad neu gyngor mentor neu reolwr.
Cofiwch fod modd i chi hawlio cyflog am fynychu sesiynau!
08/09/09, 6pm – 8.30pm
Bwffe, PARKWAY, Cwmbrân
Ydych chi’n barod?
Adolygu wrth ddatblygu ffeil
Dyma sut mae dysgu!
Steffan Webb, Geraint W-Price
Tiwtoriaid newydd yn bennaf, ond yn agored i bawb
11/09/09, 6pm – 8.30pm
Bwffe, PARKWAY, Cwmbrân
Dechrau da i’r flwyddyn!
Adborth Estyn a mwy.
Geraint W-Price
Pwysig i bawb
09/10/09
Coleg Ystrad Mynach
Paratoi at Achredu Llwybr Credydau CBAC
Sian Griffiths, Janette Jones
Tiwtoriaid Ystrad Mynach yn bennaf ond yn agored i bawb
16/10/09, 2pm- 5pm
Coffi, Canolfan Pont-y-pŵl
Hunan-asesu i’r aseswyr
Geraint W-Price
Aseswyr yn unig
16/10/09, 6pm – 8.30pm
Bwffe, Canolfan Pont-y-pŵl
Hunan-asesu
Geraint W-Price
Pwysig i bawb
02/11/09, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
6&7/11/09, Trwy’r penwythnos
Venue Cymru, Llandudno
Caffael Iaith, Yr Athro Alison Wray, Prifysgol Caerdydd
Defnyddio technolegau newydd yn y dosbarth, Dr Sangeet Bhullar, Wise Kids
Arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch, Emyr Davies, CBAC
Sesiwn Meicro-wrando, Haydn Hughes, ac Elin Williams,
Pecyn ‘The Big Welsh Challenge’ ar gyfer tiwtoriaid, BBC Cymru a Cennard Davies
Pwysig i bawb
09/11/09, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Datblygiad y tiwtor
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
16/11/09, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Adnoddau dysgu a addysgu
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol yn bennaf ond yn agored i bawb
23/11/09, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Rhoi a derbyn adborth
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
30/11/09, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Cymraeg at ddibenion penodol
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
07/12/09, 6pm – 9pm
Canolfan Pont-y-pŵl
Y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol yn bennaf ond yn agored i bawb
14/12/09, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Gwers mewn iaith dramor
Steffan WebbCymhwyster Cenedlaethol
04/01/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Caffael a dysgu iaith
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
Ionawr?
Coleg Ystrad Mynach
I’w gadarnhau
Tiwtoriaid Ystrad Mynach yn bennaf ond yn agored i bawb
11/01/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Dulliau Dysgu Amgen
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
18/01/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Ymwybyddiaeth iaith
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
22/01/09
Cinio Dolig
Adborth Hunan-asesu
I’w drefnu
Geraint Wilson Price
Pwysig i bawb
25/01/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Tasgau iaith
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
01/02/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Tasgau iaith
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
05/02/10, 6pm-8.30pm
PONT Y PWL
Cyflwyno Iaith
Steffan Webb
Pwysig i bawb
08/02/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Dysgu ar lefelau Canolradd ac Uwch
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
22/02/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Ynganu
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol yn bennaf ond yn agored i bawb
01/03/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Geirfa
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
08/03/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Ymdrin â Gramadeg
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
15/03/01, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Hanes a datblygiad yr Iaith Gymraeg
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
19/03/10, 6pm-8.30pm
PONT Y PWL
Ysgogi Siarad
Steffan Webb
Pwysig i bawb
22/03/10, 6pm – 9pm
HIGHWAY, Cwmbrân
Sgiliau sylfaenol / Paratoi i gyfweld dysgwr
Steffan Webb
Cymhwyster Cenedlaethol
Ebrill?
Coleg Ystrad Mynach
I’w gadarnhau
Tiwtoriaid Ystrad Mynach yn bennaf ond yn agored i bawb
Mai?
Cynhadledd ddiwrnod i’w threfnu
Ymdrin â gramadeg
Sgiliau chwilio am swydd: CV, cyfweliad
Ymwybyddiaeth IaithI’w drefnu
Cymhwyster Cenedlaethol yn bennaf ond agored i bawb