Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

llun croesocroeso
Cynnig cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a ddysgwyd yw’r cymwynas mwyaf y gellir ei wneud ag unrhyw ddysgwr ac o ganlyniad, yn y rhifyn hwn, rydym yn edrych yn benodol ar ddysgu anffurfiol. Eirian Conlon, yn y lle cyntaf, sy’n olrhain hanes y gymdeithas arloesol i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, sef Clwb C3. Un arall sy’n rhannu ei phrofiadau a’i chyngor yw Lynda Newcombe, ac mae Siwan Hywel yn edrych ar fwrlwm y dysgu anffurfiol yn y Gogledd gyda Jina Gwyrfai yn edrych ar y bwrlwm yng Ngwent.

cragenAwn yn ôl gydag Owen Saer i Gynhadledd IATEFL yn Brighton a chawn gyfle i werthfawrogi Hiwmor Cennard Davies. Yn y rhifyn hwn hefyd cawn wybod pwy yw’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn a pha arlunydd o Bontrhydfendigaid sy’n cynnig y wobr ar gyfer y Gystadleuaeth  

Rydym hefyd yn edrych ar y gwobrwyo diweddar yng Nghanolfan Gwent ac yn dymuno pob llwyddiant i Catrin Griffiths wrth i ni gael cipolwg ar Ddyddiadur Tiwtor.

Proffil
Cyfrifydd o Went yw’r Tiwtor dan sylw y tro hwn sy’n ein cyflwyno i un o’i Ddysgwyr Uwch.

Adolygiad
Ymhlith yr adnoddau newydd mwyaf diweddar y mae llyfr gan Lisa Jones o’r enw Welsh for Parents. Cyhoeddwyd y pecyn yn ddiweddar ac mae’n cynnwys 3 CD hefyd.

Deunydd Dysgu
Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym dasgau ar y thema Dweud yr Amser ac mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu adnoddau ac mae croeso i unrhyw un gysylltu os oes gennych chithau hefyd adnoddau i’w rhannu.
           

rhaff