Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl adolygiad

 

 

 

Pecyn newydd (3 CD a llyfr)
i deuluoedd sydd am ddysgu Cymraeg.

llinell

Mae arbenigwraig iaith, sydd ei hun wedi dysgu Cymraeg, yn honni bod dysgu Cymraeg i rieni ac o fewn y teulu yn allweddol i dwf y Gymraeg yn y gymuned ac yn gymorth i ffyniant yr iaith o fewn ysgolion.

Mae Lisa Jones, sy’n arbenigwraig iaith ac wedi cynnal cyrsiau yng Ngholeg Gwent ac Ysgol y Bannau, yn honni bod plant yn dysgu Cymraeg yn gyflymach ac yn fwy tebygol o ddefnyddio Cymraeg y tu allan i’r ysgol ac ar ôl gadael yr ysgol os ydyn nhw’n clywed aelodau’r teulu a ffrindiau’n siarad Cymraeg yn eu cartrefi.

Ffrwyth ei phrofiad yn y maes yw cwrs o 3 CD sydd wedi ei anelu’n benodol at rieni, o’r enw Welsh For Parents. Cyhoeddwyd Welsh for Parents gan Y Lolfa ar 13 Ebrill 2011 yn Ysgol y Bannau, Aberhonddu a bydd cyfran Lisa Jones o’r elw yn mynd i gefnogi’r Gymraeg yn y gymuned.

Meddai Lisa Jones:’Dw i wrth fy modd bod y CDs yn cael eu cyhoeddi. Maen nhw wedi cael eu cynllunio i helpu rhoi hyder i rieni (ac i Dad-cu a Mam-gu!) i siarad Cymraeg gyda’u plant ar yr aelwyd. Mae’r CDs hyn wedi esblygu allan o’r dosbarthiadau a gafodd eu teilwra ar gyfer rhieni, felly maen nhw wedi cael eu hysgrifennu gan rieni sydd, gam wrth gam, yn dod yn deuluoedd dwyieithog. Weithiau mae rhieni yn rhy brysur i ddilyn cwrs yn rheolaidd ac mae pobl yn dysgu ieithoedd ar gyflymderau gwahanol felly mae’n wych bod pawb yn gallu ymarfer ar eu cyflymder nhw wrth ymlacio gartref.’

Mae Lisa hefyd yn dweud bod cydweithio’n agos iawn gydag ysgolion cynradd ac ysgolion meithrin yn allweddol i ddatblygu defnydd o’r iaith yn y cartref a’r gymdeithas ehangach.

Meddai Lisa:
‘Dw i wir wedi mwynhau’r cyfle i gynllunio a darparu gwersi Cymraeg heb ddefynddio llyfr cwrs. Mae’r gwersi yn datblygu’n gyson yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn yr ysgol, yn yr ysgol feithrin ac yn y gymuned. Mae rhieni yn ymarfer sgyrsiau gyda’r plant a phobl eraill yn y gymuned. Beth sy’n allweddol hefyd ydy ymarfer darllen llyfrau i blant a darllen eu llyfrau darllen o’r ysgol. Does dim byd yn well na chyfnewid ystafell ddosbarth gyda’r athrawes dosbarth derbyn am bnawn, dysgu wrth edrych ar waliau’r dosbarth, a dysgu’r iaith fydd ei hangen ar rieni wrth gasglu eu plant y diwrnod hwnnw neu ddysgu geirfa’r gwasanaeth nesa neu’r sioe Nadolig.

Mae rhieni’n dysgu’n gynt o lawer ers i fi fod ar safle Ysgol y Bannau oherwydd ei bod hi gymaint yn haws i adlewyrchu beth sy’n digwydd bob wythnos. Hefyd, mae’n wych cael y cyfle i drafod gyda’r staff pa eiriau maen nhw’n eu defynddio fel arfer. Felly dw i’n ddiolchgar iawn i Emyr Jones (pennaeth Ysgol y Bannau) a Meriel Gardner (arweinydd Cylch Meithrin Aberhonddu) am eu hamser a’u cefnogaeth.’

esiampl

esiampl 2

llinell

Yr Awdur - Lisa Jones

Mae Lisa Jones wedi dysgu Cymraeg ei hun er mwyn rhoi’r iaith yn ôl i’w theulu. Ar ôl dysgu Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent am dair blynedd dechreuodd hi gynnal gwersi wedi’u teilwra i rieni. Mae Lisa nawr yn cyfuno gwaith achlysurol yn Llundain fel Hyfforddwraig Cyswllt i Canning (yn dysgu Saesneg i bobl fusnes) â gwaith gwirfoddol yn ei chymuned yn Aberhonddu, ble mae hi’n cynllunio a darparu gwersi Cymraeg ar gyfer rhieni, ar y cyd ag Ysgol y Bannau.

Mae Lisa hefyd wedi defnyddio ei phrofiad o ddysgu ieithoedd gwahanol ei hun dros y blynyddoedd i ysgrifennu’r CDs. Astudiodd Lisa Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg yn y coleg ac roedd hi’n byw yn yr Eidal am flwyddyn cyn dechrau dysgu Cymraeg.

Teitl: Welsh for Parents
Dyddiad cyhoeddi 13.4.11
Pris & ISBN £19.95
Awdur Lisa Jones
Ffôn, e-bost Lisa.jones81@btinternet.com  01874 610 338

Am fwy o wybodaeth ewch i www.ylolfa.com

Garmon Gruffudd
Rheolwr Gyfarwyddwr
Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion, Cymru SY24 5HE
Ffôn 01970 831 902
 

llinell