Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl ysgwrn

Adroddiad gan ddysgwr o’r Canolbarth yn cofnodi’i phrofiadau wrth ymweld â safle hanesyddol. Trefnwyd yr ymweliad â’r Ysgwrn gan Gwen Lasarus, Llyfrgelloedd Gwynedd a Menter Mon ar gyfer dysgwyr da a siaradwyr rhugl eu Cymraeg. Yn rhan o’r un daith daeth Angharad Harris, Swyddog Addysg Plas Tan y Bwlch, i gyfarfod â’r criw ym Mwyty Mawddach i roi sgwrs am hanes yr Afon Mawddach. Roedd yn ddiwrnod da gyda dros 80 o bobl o Ganolfan y Gogledd a Chanolfan y Canolbarth yn bresennol. Yn ôl Canolfan y Canolbarth, y bwriad nawr yw chwilio am lawer mwy o gyfleoedd i gydweithio yn y modd yma.

llinell

Yr oedd ymweld â’r Ysgwrn a chael cipolwg ar fywyd Hedd Wyn yn brofiad unigryw.  Mae’n anodd dychmygu magu naw o blant mewn bwthyn mor fach heb drydan.  Gellir dweud ein bod ni wedi symud ymlaen yn ystod y ganrif ddiwethaf ond nid yw pob newid yn welliant ac yn aml gwelwyd dau gam ymlaen ac un yn ôl. 

Heddiw ni chaniateir i blant adael yr ysgol yn ddeuddeng mlwydd oed ond yn ddiweddar tynnwyd yn ôl y taliadau a oedd yn arfer helpu disgyblion o deuluoedd incwm cymedrol i allu ymuno â’r chweched dosbarth yn hytrach na gadael yr ysgol i edrych am waith.  Nid oes rhaid i blant gerdded i’r ysgol beth bynnag y tywydd heb wisg ddiddos yn y glaw, ond heddiw ni chred y mwyafrif o rieni y byddai’u plant yn ddiogel wrth gerdded i’r ysgol ar eu pennau eu hunain. 

Nid oedd trydan yn y rhan fwyaf o ffermydd a thyddynnod yn ystod y rhyfel byd cyntaf.  Deugain mlynedd yn ddiweddarach dechreuwyd codi atomfa niwclear Trawsfynydd.  Ers hynny, yr ydym wedi dod i ystyried nifer fawr o declynnau trydanol yn hanfodol ac mae gan blant gyfrifiaduron a setiau teledu yn eu hystafelloedd gwely.  Yn awr, mae’r atomfeydd niwclear yn cyrraedd diwedd eu bywydau swyddogaethol ac wrth i gyflenwadau nwy ac olew ddod i ben nid oes sicrwydd a fydd yn bosibl diwallu’r galw am drydan yn y dyfodol.  Yr oedd yn dda cael ein hatgoffa yn yr ysgol nad yw bywyd yn amhosibl heb yr holl gyfleusterau modern.

Bu farw dros 650,000 o filwyr Prydeinig yn y rhyfel byd cyntaf  ac anafwyd 1.6 miliwn.  Mae’n anodd deall pam brwydrodd Prydain yn y rhyfel hwn.  Ymddengys nad oeddem wedi dysgu llawer.  Bron can mlynedd yn ddiweddarach yr ydym yn anfon dynion ifanc unwaith eto i frwydro mewn gwlad dramor oherwydd rhesymau anodd eu deall.

Mae’n amlwg bod nai Hedd Wyn yn credu bod ymddygiad pobl wedi dirywio ers ei blentyndod.  Yr oedd yn ofnadwy i glywed bod dogfennau hanesyddol o’r tŷ wedi “magu traed”.  Byddai’n ymateb naturiol i awgrymu y dylid diogelu’r tŷ a’i holl gynnwys mewn amgueddfa ond wrth feddwl teimlaf fod y lleoliad unig yn rhan annatod o’r profiad.  Mae’r dogfenni, y lluniau a’r Cadeiriau’n perthyn i’r tŷ ac mae’r tŷ’n perthyn i’w leoliad.  Yn fy marn i yr oedd cerdded ar hyd y lôn o Ysgol Trawsfynydd i’r Ysgwrn, a’r tywydd yn wlyb, yn rhan bwysig o’r ymweliad.  Ni fyddai’r profiad yr un peth unrhyw le arall. 

Jackie Willmington   17.05.11


llinell