Siop lyfrau Caban yng Nghaerdydd oedd yn cynnig y wobr ar gyfer cystadleuaeth y rhifyn diwethaf, a’r wobr oedd tocyn nwyddau gwerth £20.
Y cyfan oedd yn rhaid i chi ei wneud oedd ateb y cwestiwn hwn:
Ym mha ardal yng Nghaerdydd y mae siop Caban?
Yr ateb wrth gwrs yw Pontcanna a’r enillydd yw L.T. Wright. Llongyfarchiadau mawr iddi hi.
Arlunydd o Rydaman yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw ym Mhontrhydfendigaid yw Gwenllian Beynon. Mae’n weithgar ers nifer o flynyddoedd yn cynnal sesiynau a gweithdai celf di-ri i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg fel ei gilydd, gan roi pwyslais mawr ar bontio a thynnu pobl o bob cefndir at ei gilydd.
Mae ei gwaith celf yn cynnwys elfen storïol gref ac yn aml defnyddia symbolau megis y Fari Lwyd i gyflwyno neges neu i adrodd stori trwy gyfrwng llun. Ewch i’r adran Newyddion i gael mwy o wybodaeth amdani hi a’i gwaith.
Mae arddangosfa o luniau Gwenllian yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Oriel Siop Rhiannon yn Nhregaron ac un o’i lluniau gwreiddiol yw gwobr y gystadleuaeth newydd.
Os hoffech ennill y llun, atebwch y cwestiwn canlynol:
Ble mae cartref presennol
Gwenllian Beynon?
Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu, a’r dyddiad cau yw 26 Awst, 2011.
Pob Lwc!