Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun dysgwr

 

Yn ei geiriau ei hun ...

Dw i'n dod o Fanceinion yn wreiddiol ac roeddwn yn arfer byw efo mam, dad, fy chwaer (sef fy efaill) a fy mrawd. Symudais i Gymru fis Mai y llynedd i fyw gyda fy nghariad, Deio Parri Jones, sydd yn byw yn Llangwnnadl. 
 
Es i i’r ysgol yn Knutsford ac yna i’r brifysgol ym Manceinion i astudio Coaching and Sports Development. Dw i'n gweithio yn Abersoch mewn siop o’r enw White Stuff fel rheolwr cynorthwyol.
 
Dw i'n dysgu Cymraeg gan fod fy nghariad yn Gymro Cymraeg, a hefyd am fy mod i eisiau cyfrannu at y gymuned leol a chymdeithasu yn y gymuned, nawr ac yn y dyfodol. Does neb arall yn fy nheulu yn siarad nac yn dysgu Cymraeg!
 
Dw i’n dysgu Cymraeg bob Nos Lun o saith o'r gloch tan naw o'r gloch, ac mae deg o bobl yn mynychu’r gwersi.  Fy nhiwtor yw Fflur Roberts o Fynytho. Dw i’n mwynhau y gwersi yn fawr iawn. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi ar y cwrs Mynediad 2, a dw i ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg o’r blaen. Mae 'r gwersi yn hwyl!
 
Fy niddordebau yw siopa, cadw’n heini, cerdded a mynd allan i gymdeithasu.
 
Mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu i gymdeithasu a deall pobl yn y gwaith, a chael gwell perthynas gyda fy ffrindiau, fy nghariad a theulu fy nghariad.
 
Fy nghyngor i ddysgwyr eraill yw:

Fy ngobeithion ar gyfer y dyfodol yw parhau i ddysgu’r iaith a bod yn rhugl a hyderus wrth siarad Cymraeg.

llinell