Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

teitl canolbarth

Mae’r Ganolfan CiO yn y Canolbarth wedi bod yn cynnal ymchwil i’r angen a galw am gyrsiau ar draws y rhanbarth, a hynny drwy ymgyrch Welsh My Way. Na, nid ailwampiad o un o ganeuon Frank Sinatra mo hwn, ond ymdrech i adnabod dysgwyr newydd yn y rhanbarth, i weld ym mha ffyrdd y byddent yn hoffi cael eu dysgu, a ble a phryd.

Yn ystod mis Mawrth ac Ebrill eleni, cysylltwyd â darpar ddysgwyr trwy ymgyrch cardiau post, ac aethpwyd â’r rhain i bob ysgol yng Ngheredigion, Powys a Meirionnydd. Aethpwyd â phosteri a chardiau hefyd at Gynghorau Cymuned a siopau a chanolfannau cymunedol yn y rhanbarth. Dosbarthwyd yr wybodaeth yn ogystal i fudiadau megis y Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a Sefydliad y Merched. Mae modd i ddarpar ddysgwyr, yn ogystal â’n dysgwyr presennol, gyfrannu at yr ymchwil drwy’r wefan www.welsh-my-way.com hefyd.

Roedd modd i gyfranwyr ennill gwobr o £50 os oeddent yn ymateb cyn Ebrill 30, ac mae’r Ganolfan wedi derbyn nifer dda o ymatebion erbyn nawr. Mae’r Ganolfan wedi dechrau ar y broses o goladu a dadansoddi’r ymatebion ond, wedi dweud hynny, ry’n ni’n gwerthfawrogi ymatebion ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw gyfraniad yn fodd i’n cynorthwyo wrth ddatblygu’r ddarpariaeth at y dyfodol, a chynnig darpariaeth sydd yn ymateb i anghenion dysgwyr a chymunedau.

 

llun canolbarth

llinell