Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun dysgwrO lygad y ffynnon ...

 

Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?
Ces i fy ngeni a’m magu yn Lublin, Gwlad Pwyl.

Ble cawsoch chi eich addysg?
Prifysgol Gatholig John Paul II, Lublin, Gwlad Pwyl.

Beth oedd eich pwnc yn y coleg?
Gwnes i radd mewn llenyddiaeth Saesneg (Adran Saesneg, Prifysgol Gatholig JPII) ac ymlaen i wneud Doethuriaeth yn yr adran Geltaidd (rhan o’r adran Saesneg yn y Brifysgol). Roedd fy nhraethawd yn sôn am waith Niall Griffiths - ‘Constructing Wales in Niall Griffiths’s fiction.’

Beth oedd eich swydd gyntaf?
Athro Saesneg mewn ysgol gynradd ac yna i Adran Geltaidd y Brifysgol wedyn.

Beth yw eich diddordebau?
Heicio, peintio, darlunio (cartwnau), ieithoedd, llenyddiaeth Cymru.

Ble ydych chi’n byw nawr, a chyda phwy?
Yn Lublin, gyda fy ngwraig.

Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd?
Yn yr Adran Geltaidd, Prifysgol Gatholig Lublin.

Pryd dechreuoch chi ddysgu Cymraeg a pham?
Roedd y Gymraeg yn ‘terra incognita’  i fi ac yn swnio’n egsotig iawn – nes i gwrs Cymraeg wrth i mi astudio ar gyfer fy ngradd.

Oes cefndir Cymraeg gennych chi o gwbl?
Does gen i ddim teulu o Gymru, wrth gwrs, ond mae gen i lot o ffrindiau gwych yng Nghymru.

Ble dechreuoch chi ddysgu Cymraeg a phwy oedd eich tiwtor?
Yn y Brifysgol Gatholig yn Lublin – Aled Jones oedd fy nhiwtor i. Gwnes i Gwrs Wlpan yn Llambed ar ôl graddio hefyd.

Pa gyrsiau rydych chi wedi eu dilyn?
Cwrs Wlpan – Llanbedr Pont Steffan

Oes gennych chi gyngor arbennig i rywun sydd eisiau dysgu Cymraeg?
Gwrandewch ar y radio yn Gymraeg, ceisiwch ddelweddu (visualize) geiriau anodd a chofiwch fod ieithoedd eraill yn anoddach e.e. Pwyleg!
Erbyn hyn dw i hefyd yn dysgu dosbarthiadau Cymraeg yma yn Lublin. Mae bod yn diwtor Cymraeg yn rhoi hwb enfawr i chi wrth i chi geisio gwella eich sgiliau iaith eich hun – dyna’r moddion gorau!

Ydych chi wedi ymweld â Chymru erioed?
Ydw, i ddysgu Cymraeg, i deithio, ymweld â ffrindiau ac i ‘fewnanadlu’r tirlun.’

Beth sydd wedi dylanwadu arnoch fwyaf?
Mae byw yn Lublin wedi dylanwadu arna i, oherwydd yma mae’r dwyrain yn cymysgu gyda’r gorllewin. Mae cerddoriaeth pync roc Pwyleg o’r wythdegau hefyd wedi dylanwadu arna i, yn ogystal â’r diwylliant Cymraeg.

Beth fyddai eich swydd ddelfrydol?
Gweithio ar brosiectau celf llawn amser (ysgrifennu, cyhoeddi, neu ddarlunio), ond mae fy swydd bresennol yn wych hefyd!

Beth yw uchafbwynt eich gyrfa / bywyd hyd yn hyn?
Cyhoeddi fersiwn Pwyleg o’m doethuriaeth (mae’r fersiwn gwreiddiol wedi ei ysgrifennu yn Saesneg ac rwy’n paratoi cyhoeddiad Saesneg ar hyn o bryd.)

Beth yw eich gobeithion er gyfer y dyfodol?
Siarad Cymraeg yn rhugl, ysgrifennu am lenyddiaeth Gymreig, gwneud prosiectau celf (sy’n gysylltedig â Chymru hefyd.)

Beth yw eich hoff fwyd?
Beth bynnag mae fy ngwraig yn ei baratoi! 

Sut ydych chi’n hoffi ymlacio?
Cerdded, heicio, gwylio ffilmiau, darlunio.

Pa berson (sy’n fyw neu’n farw) rydych chi’n ei edmygu fwyaf? 
Dw i’n edmygu llawer o unigolion o hanes Gwlad Pwyl yn yr 20fed ganrif, ac Owain Glyndwr!

Ydy dysgu Cymraeg wedi newid eich ffordd o fyw o gwbl?
Mae dysgu Cymraeg fel agor y drws i fyd gwahanol, cyffrous. Mae siarad, darllen a chyfathrebu trwy’r Gymraeg yn newid eich persbectif ar y byd – rydych chi’n edrych ar y byd mawr o safbwynt y lleiafrif.

llinell