Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun joyce owen

 

A hithau bron yn 84 oed, yn fyrlymus ac yn iach fel cneuen, mae’n codi’r galon i sgwrsio â Joyce Owen. Yn enedigol o Aberteifi, symudodd Joyce gyda’i theulu i Sussex pan yn 10 mis oed. Bryd hynny, roedd yr agweddau tuag at y Gymraeg yn bur wahanol ac o ganlyniad cafodd ei magu drwy gyfrwng y Saesneg, gan golli’r Gymraeg i gyd. Ond roedd y gwreiddiau yn parhau’n gryf yn Aberteifi a byddai Joyce yn dychwelyd i orllewin Cymru yn rheolaidd. Pan ddaeth yn amser gadael y nyth, aeth i weithio mewn banc yn Llundain ac yno y cyfarfu â’i gŵr cyntaf. Ond ar ôl colli ei gŵr, a hithau erbyn hyn yn teimlo nad oedd Llundain yn ddiogel, penderfynodd symud yn ôl i glydwch Aberteifi ym 1984.

Mae Joyce wedi ymddeol ers 26 o flynyddoedd ond mae ei gwytnwch yn ddiarhebol. Ail-briododd â Chymro oedd yn adnabyddus iawn yn ardal Aberteifi, sef Owen Owen a dyna oedd y symbyliad iddi fwrw ati i ddysgu Cymraeg. Er iddi fynychu rhai dosbarthiadau ychydig flynyddoedd yn gynt, aeth ati o ddifrif yn 2001 pan yn 75 oed, ar ôl colli’r ail ŵr. Mae ganddi feddwl chwim a chred yn gryf y daw llwyddiant wrth anelu at rywbeth a chael nod penodol. Wrth ddyfalbarhau, mae hi wedi llwyddo i basio arholiadau TGAU a Lefel ‘A’ Cymraeg, ac wedi ennill nifer o gystadlaethau Merched y Wawr i ddysgwyr, gan gipio’r wobr gyntaf yng Ngŵyl Haf y mudiad.  

Yn ôl Joyce, integreiddio’n llwyr i’r gymdeithas Gymraeg yw’r gyfrinach, a dyma’r ffordd fwyaf hwylus i ddod yn rhugl yn yr iaith. Mae’n aelod o Ferched y Wawr Aberporth a hefyd MYW Aberteifi. Mae’n aelod o Gapel Cymraeg yn Aberteifi ac yn aelod o Gymdeithas y Merched a Chymdeithas Aelodau y capel hwnnw. Yn ogystal â hynny, er iddi fod yn hollol rugl, mae’n parhau i fynychu dosbarth Uwch a gynhelir yn Ysgol y Preseli, unwaith yr wythnos am bedair awr, dan ofal y tiwtor Helen Williams. Mae’n wraig annibynnol iawn ac yn dal i yrru ei hun lawr i’r Preseli ar gyfer ei dosbarth wythnosol. Hwyl a chwmnïaeth y dosbarth sy’n ei denu bob wythnos, ac mae ei chanmoliaeth o’r tiwtor yn fawr.

Erbyn hyn, teimla fod ei nod wedi ei gyrraedd ac mae’n medru mwynhau’r iaith. Mae’n cymdeithasu â Chymry Cymraeg ac yn cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau lleol. Erys yn ifanc iawn ei hysbryd ac, yn ogystal â dysgu iaith newydd,  mae’n mwynhau garddio, canu, darllen papurau bro, ysgrifennu a cherdded traeth Gwbert gyda Siani’r ci bob dydd!

Mae dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd yn llwyr a theimla ei bod yn Gymraes ‘go iawn,’ ac un sydd wedi dod gartref o’r diwedd i awel y môr.

 

llinell