Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

tasgau gwylio'n graff

1. Aberystwyth (Milltir Sgwâr)

Cyflwyniad: Trafod
Pa eiriau sy’n disgrifio’r ardal lle rydych chi’n byw?

gwledig                 unig                         anghysbell
trefol                     diwydiannol              poblog
hardd                    hyfryd                      dymunol
prysur                   llawn bwrlwm            cyffrous
tawel                     heddychlon              marwaidd
diflas                     anniddorol                budr / brwnt
glân                      llewyrchus

llinell

Cyd-destun y darn ar y DVD
Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Milltir Sgwâr, rhaglen lle mae pobl ifanc yn cyflwyno’u hardal nhw.

Geirfa
ym mhen gogleddol               derbyn              cyhoeddi              ger y lli
rheilffordd drydanol                troedfeddi

Sylwch yn arbennig:
gogledd, gogleddol
Felly …
de, deheuol
dwyrain, dwyreiniol
gorllewin, gorllewinol

llinell

Gwylio, gwrando a deall
Gwyliwch y darn – edrychwch ar y lluniau’n ofalus. Yna, atebwch y cwestiynau yma:

1. Mae Aberystwyth yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Beth, yn y clip, sy’n  awgrymu bod Aberystwyth yn lle da ar gyfer gwyliau?

2. Beth ydy arwyddocâd y rhifau yma?

1649
21-0
1962
2 flynedd
tua blwyddyn
4 milltir yr awr
778 o droedfeddi           
£2.75

llinell

Iaith
a. Mae’r darn yn defnyddio’r ffurfiau adeiladwyd a defnyddiwyd.

Beth ydy ffurfiau amhersonol gorffennol (-wyd) y berfenwau yma?

agor                  adeiladu                    adnewyddu                   codi                       cau
dechrau             datblygu                    gwerthu                       prynu                      sefydlu

Defnyddiwch y ffurfiau yma mewn brawddegau – i sôn am eich ardal chi, os yn bosib.

b. I fod
Mae’r bachgen yn dweud, ‘Pan adeiladwyd yr hen goleg, roedd e i fod yn westy.’
Rhowch i fod i neu i fod yn y bylchau yma:

1. Rwyt ti …………… ddysgu’r darn erbyn y cyngerdd.
2. Rwyt ti …………… ar y trên erbyn hyn!
3. Rwyt ti …………… yn esiampl i’r plant yma!
4. Roedden nhw …………… gyrraedd cyn naw o’r gloch.
5. Roedden nhw …………… yrru yma’n syth.
6. Roedd hwn …………… yn westy unwaith.
7. Dw i …………… fynd nawr!
8. Ydw i …………… yno cyn chwech o’r gloch?
9. Wyt ti’n rhedeg yn y marathon? Dw i ……………
10. Roeddech chi …………… siarad â’r rheolwr!

c. Atebwch y cwestiynau yma:

1. Oedd yr hen goleg i fod yn ysgol?
2. Gwesty oedd yr hen goleg i fod?
3. Ydych chi’n siŵr?
4. Tenor ydy’r bachgen?
5. Ydy’r ferch yn canu alto?
6. Ydy aelodau’r côr yn clapio?
7. Ar hyd y prom mae’r trên yn mynd?
8. Allai’r bachgen a’r ferch gerdded i ben y bryn?
9. Ga i fynd i Aberystwyth ar fy ngwyliau?
10. Hoffech chi ddod?

llinell

Trafod

llinell

Ysgrifennu
Ysgrifennwch lythyr at olygydd y papur bro ar ran cymdeithas yn eich ardal chi. Rhaid i chi roi manylion am y gymdeithas, e.e.

• enw
• ble mae’n cwrdd / cyfarfod
• beth sy’n digwydd fel arfer
• noson arbennig
• gwahodd aelodau newydd

neu
Ysgrifennwch lythyr at olygydd y papur bro naill ai’n canmol neu’n cwyno am un o gyfleusterau’r ardal, e.e. pwll nofio neu sinema newydd / hen doiledau afiach ac ati.

Gwaith atodol
Beth am wrando ar rai o gorau Cymru’n canu caneuon Cymreig?
Beth ydy’ch barn chi am y caneuon? Pam?

Trafod
Rydych chi’n aelod o bwyllgor sy’n trafod sut i wella’ch ardal chi. Rhaid i chi gynnig a thrafod syniadau. Rhaid i chi ddewis Cadeirydd. Rhaid i chi ysgrifennu nodiadau, yn ogystal â chymryd rhan yn y drafodaeth.

Ysgrifennu
Ysgrifennwch gofnodion eich cyfarfod chi.

neu
Ysgrifennwch daflen i ddenu ymwelwyr i’ch ardal chi neu i unrhyw ardal arall yng Nghymru.

Cyfarfod i drafod gwelliannau i’r ardal

AGENDA

1. Croeso’r Cadeirydd
2. Ble mae angen gwella – y problemau
3. Sut i wella’r ardal
4. U.F.A.
5. Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf

 

* Ewch i’r adran Deunydd Dysgu i weld rhagor o enghreifftiau o dasgau Gwylio’n Graff.

llinell