Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl gwylio'n graff

Adolygiad gan Sarah Meek

Detholiad o glipiau bach o amrywiaeth o raglenni Cymraeg yw’r adnodd hwn sef, Milltir Sgwâr, Wedi 3, Nôl â Ni, Retro, Cwpwrdd Dillad, y Byd ar Bedwar a llawer mwy. Mae pob clip yn trafod thema wahanol gan gynnwys yr amgylchedd, teithio, traethau, gwyliau, ysbrydion ac eraill.

Nod y DVD yw annog trafodaeth ymysg dysgwyr ar lefelau Uwch a Hyfedredd.

Mae taflenni gweithgaredd ar gyfer pob clip sy’n seiliedig ar gynnwys y DVD o dan y teitlau canlynol:

  • Cyflwyniad: Trafod - trafodir y prif thema fel dosbarth mewn parau / grwpiau cyn gwylio’r clip.
  • Cyd-destun y darn ar y DVD – rhoddir manylion am y rhaglen dan sylw
  • Geirfa
  • Gwylio, Gwrando a Deall – set o gwestiynau i’w hateb wrth wylio’r clip. Mae’n syniad da hefyd i’r dysgwyr drafod yr atebion mewn parau / grwpiau cyn mynd drostynt fel dosbarth.
  • Iaith – Trafodir y patrymau iaith a ddefnyddir yn y clipiau. Mae’r patrymau hyn yn adlewyrchu patrymau’r Cwrs Uwch. Mae’r tasgau’n wych ac yn gyfle da i ymarfer ac adolygu hen batrymau.
  • Ymadroddion – rhestr o ymadroddion a godir yn y darn.
  • Trafod – cwestiynau trafod / mynegi barn / gwaith pâr / grŵp
  • Ysgrifennu – tasgau ysgrifenedig (i’w gosod fel gwaith cartref)

Yn ogystal â’r taflenni gweithgaredd, ceir set o ganllawiau i diwtoriaid a thrawsgrifiadau o bob clip. Mae’r adnodd hwn yn trafod pynciau llosg a materion cyfoes sydd yn effeithiol iawn ac yn help mawr i gynnal diddordeb y dysgwyr. Gellir ei ddefnyddio fel atodiad i’r cwrs arferol neu fel adnodd defnyddiol iawn ar gyfer nifer o unedau RhCA lefel 3.

Ceir tasgau amrywiol a defnyddiol iawn ac mae'r gweithgareddau i gyd ar gael ar y wefan www.cymraegioedolion.org.

Gellir clicio ar y ddolen isod hefyd:
http://www.cymraegioedolion.org/tutors/teachingresources/centresresources/gwyliongraffdvd/?lang=cy

Er bod y deunydd yn seiliedig ar y DVD, fe welwch fod nifer fawr o’r tasgau hefyd yn medru bod yn annibynnol.

* Mae copïau o'r DVD ar gael am ddim trwy'r canolfannau, neu'n uniongyrchol o APADGOS.


llinell