# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008
morgannwg.jpg
Mae Shan Morgan yn gweithio fel Swyddog Dysgu Anffurfiol llawn amser yn y Ganolfan ers bron i flwyddyn erbyn hyn ac mae’r gwaith yn mynd o nerth i nerth.

Dyma rai pigion o’r arlwy a gynigir:
  • Clwb cerdded misol – daeth 30 o bobl, yn ddysgwyr a’u teuluoedd, tiwtoriaid a siaradwyr Cymraeg, at ei gilydd i gerdded mewn ardal bert iawn o’r enw Brynnau Gwynion ar y daith gyntaf.

  • Dau glwb cinio misol.

  • Teithiau i leoedd o ddiddordeb, e.e. taith i Gaerfyrddin ar gyfer ychydig o siopa Nadolig ac ymlaen i Lanelli i stiwdio Tinopolis i weld Wedi 7 yn cael ei ffilmio. Yn ystod hanner tymor aeth dros 40 o ddysgwyr a’u plant i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer taith o gwmpas y safle.

  • Gweithdy gwydr ar gyfer y rhai hynny sy’n ymddiddori mewn crefft.

  • Yn dilyn eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’r côr nawr yn ymarfer bob wythnos.

  • Bydd awduron yn dod i dri Sadwrn Siarad yn y flwyddyn newydd. Ar y cyfan, dysgwyr o Ganolfan Morgannwg sy’n dod i’r Sadyrnau Siarad, ond gobeithir denu dysgwyr o’r ardaloedd cyfagos ar gyfer y Sadyrnau hyn. Gellir cael ffurflen gais trwy ffonio 01443 483600. Mae’r manylion fel a ganlyn:

         24 Ionawr, Sadwrn Siarad Merthyr - Alun Jones
         28 Chwefror, Sadwrn Siarad Pen-y-bont ar Ogwr - Bethan Gwanas
         7 Mawrth, Sadwrn Siarad Gartholwg - Lyn Ebenezer

Seremoni Wobrwyo
Cafwyd noson o ddathlu llwyddiant ein dysgwyr mewn arholiadau ym mis Medi. Cafwyd anerchiad pwrpasol iawn gan Angharad Mair a hi gyflwynodd y tystysgrifau hefyd. Cafwyd cyhoeddusrwydd gwych i ddysgwyr y Ganolfan gan i Wedi 7 wneud eitem yn fyw o’r seremoni wobrwyo a ffilmio portread o dri o’r dysgwyr.

Cytundebau i diwtoriaid
Gall gwaith fel tiwtor Cymraeg i Oedolion fod yn ansicr ar adegau, heb wybod a fydd dosbarthiadau’n rhedeg a rhai misoedd yn ystod y flwyddyn heb unrhyw gyflog. Rydym wedi bod yn ceisio gwella amodau i’n tiwtoriaid ers i’r Ganolfan ddod i fodolaeth, ac erbyn hyn mae gan diwtoriaid sy’n dysgu wyth awr neu fwy i’r Brifysgol yn wythnosol gytundebau ffracsiynol, sy’n golygu eu bod yn cael eu talu ar hyd y flwyddyn. Mae’n fanteisiol iddyn nhw ond hefyd i ni fel Canolfan gan y byddwn yn gallu cael gwasanaeth y tiwtoriaid hyn ar gyfer cyrsiau adolygu neu gyrsiau bloc yn ystod misoedd yr haf, a byddant hefyd yn cynorthwyo gyda chyhoeddusrwydd.

star.gif  
E-gylchlythyr
Er mwyn cyfathrebu’n fwy effeithiol a phroffesiynol gyda’n dysgwyr rydym wedi lansio e-gylchgrawn. Anfonir y cylchgrawn trwy e-bost bedair gwaith y flwyddyn. Pe hoffech chi fod ar y rhestr bostio i gael y "clecs" o Forgannwg, yna ebostiwch Angharad ar canolfan@glam.ac.uk.

digwydd3ii.jpg