# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008
       rian.jpg
Mewn datblygiad newydd arloesol i faes Cymraeg i Oedolion, mae Canolfan y De Orllewin wedi penodi dau Diwtor Dan Hyfforddiant llawn amser ar gyfer y flwyddyn. Ac fel mae’n digwydd, mae’r ddwy a benodwyd yn hanu o ardal Abertawe, yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn ateb i’r enw Rhian! Bydd Rhian Haf Bevan a Rhian Jane Richards yn dechrau’r gwaith ym mis Rhagfyr. Fel rhan o’u gwaith, byddant yn cael cyfle i weithio tuag at y cymhwyster newydd i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ac yn cynorthwyo’r Ganolfan i ddatblygu ei rhaglen o gyrsiau a denu rhagor i ddysgu’r iaith. Dyma rywfaint o hanes y ddwy Rian:

Fe raddiodd Rhian Haf Bevan (yr un ar y dde) mewn Almaeneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer ei MA mewn Almaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg o dan ofal Mererid Hopwood. Un her i fyfyrwyr sy’n astudio dwy iaith ar gyfer eu gradd yw sut i sicrhau eu bod yn datblygu eu gafael ar y ddwy iaith yn ystod y flwyddyn dramor sy’n rhan o’r cwrs. Ateb Rhian i’r broblem honno oedd treulio’r flwyddyn yn Arras yng ngogledd ddwyrain Ffrainc yn astudio’r Almaeneg yn y Brifysgol yno trwy gyfrwng y Ffrangeg! Wedi’r holl jyglo ieithyddol yna, mae Rhian Haf yn sicr o fod yn barod am unrhyw beth y bydd dysgwyr y De Orllewin yn ei daflu ati!

Mae Rhian Haf hefyd yn delynores o fri. Mae’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru ac wedi perfformio mewn cyngherddau lu, yn ogystal â bod yn delynores swyddogol i’r Brifysgol yn ystod seremonïau graddio. Mae ei diddordeb mewn ieithoedd yn cydfynd â hoffter o deithio a bydd digon o gyfle iddi roi’r diddordeb hwnnw ar waith wrth ganfod ei ffordd i ddosbarthiadau yn Y Banwen neu rhwng dosbarth Trelech a Chrymych!

O swyddfa iaith y Brifysgol mae Rhian Jane Richards (yr un ar y chwith) yn croesi’r campws i ymuno â thîm y Ganolfan. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd ac wedi hynny bu’n gweithio am gyfnod i Lywodraeth y Cynulliad fel ymchwilydd amaethyddol. Yn y swydd honno, roedd yn cyfweld â pherchnogion tir er mwyn adnewyddu cofnodion ffiniau tir. Roedd hyn yn ystod cyfnod anodd iawn i’r gymuned amaethyddol oherwydd i glwy’r traed a’r genau fwrw ei gysgod dros bopeth. Serch hynny, mwynhaodd Rhian y swydd a’r cyfle i deithio’r wlad a chwrdd â chymaint o gymeriadau. Bu’n gweithio wedyn fel ymchwilydd cymdeithasol gyda chwmni ORS yn Abertawe. Un o’r prosiectau a fwynhaodd fwyaf yno oedd canfod ymateb pobl i ymgyrch Iaith Gwaith Bwrdd yr Iaith yn nyddiau cynnar yr ymgyrch honno.

Mae Rhian Jane wedi ail-gydio yn ddiweddar mewn diddordeb o ddyddiau ei phlentyndod, sef merlota. Ymhlith ei rhestr hir o ddiddordebau eraill, mae rhedeg a chadw’n heini, darllen a gwylio ffilmiau. Dywed hefyd ei bod yn hoff iawn o goginio a’i bod yn cael pleser mawr o roi cynnig ar brydau gwahanol a gwneud pobl eraill yn hapus trwy ei choginio. Efallai bod hynny’n esbonio pam bod aelodau eraill o staff y Ganolfan yn edrych ymlaen cymaint at ei chroesawu i’r tîm!

Dywedodd Aled Davies, Cyfarwyddwr y Ganolfan, "Ein bwriad o greu swydd tiwtor dan hyfforddiant oedd denu gwaed newydd i faes Cymraeg i Oedolion a rhoi cyfle i ddatblygu gyrfa yn y maes. Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi denu dwy sydd mor frwd i ymroi i’r gwaith ac sy’n dod â sgiliau a phrofiad gwerthfawr o’u cefndiroedd gwahanol gyda nhw.”

star.gif  
Ac roedd ymateb y ddwy Rian i’r hyn sydd o’u blaenau yn gadarnhaol iawn hefyd. Dywedodd Rhian Haf, "Rwy’n edrych ymlaen at yr her wrth i mi ddatblygu gyrfa weth chweil”, ac ychwanegodd Rhian Jane, "Rwy’n gobeithio gwneud gwahaniaeth a helpu dysgwyr i ddod i wybod mwy am ddiwylliant a thraddodiadau Cymru wrth ddatblygu eu meistrolaeth ar yr iaith Gymraeg.”

digwydd3ii.jpg