# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008
aled.jpg  

Enw:
Aled Meredydd Davies

Swydd:
Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru, Prifysgol Abertawe

Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw ym Mhentre Bancffosfelen, Cwm Gwendraeth

Gyda phwy wyt ti’n byw?
Gyda fy ngwraig, Sioned, y plant Mabon (8 oed), Ianto (6 oed), Swyn (4 oed) a Haf (2 oed), llond tŷ o deganau a lot fawr o sŵn!

Hoff liw?
Sgarlad!

Hoff fwyd a hoff ddiod?
Cig da wedi’i goginio’n dda gyda llysiau ffres – cig oen ydy’r ffefryn, mae’n debyg.
Hoff ddiod yn dibynnu ar yr amser a’r achlysur – gwydraid o win gyda’r bwyd uchod, lagyr bach gyda ffrindiau neu baned o de yn y gwaith ganol bore.

Hoff ffilm?
Yr un ddiwethaf i mi ei gweld sydd yn y cof fel arfer, ond mae sbel go hir ers i mi wylio ffilm ar ei hyd felly dw i ddim yn cofio! Rwy’n mwynhau dilyn cyfres Con Passionate ar y teledu ar hyn o bryd.

Pe baet yn cael 3 dymuniad, pa rai fyddet ti’n eu dewis?
Gweld diwedd ar ryfela, diwedd ar dlodi a chael gwybod y bydd y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw.

Pryd collest ti dy dymer ddiwethaf?!
Pan glywais un o gyflwynwyr chwaraeon Radio Cymru yn sôn am "Y Cwpan Heineken" Neu "Y Cynghrair Magners" mwy na thebyg!

Hoff lyfr?
Eto, fel gyda ffilmiau, rwy’n tueddu i fwynhau llyfr da ac yna symud ymlaen. Martha, Jac a Sianco ydy’r nofel dw i wedi’i mwynhau fwya yn ddiweddar. Dw i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau teithio neu fapiau naill ai wrth gynllunio taith, dim ond o ran diddordeb a chwilfrydedd.

Uchafbwynt dy yrfa hyd yn hyn?
Gweld y Ganolfan yn dod dros amryw i sialens a llwyddo i ddarparu rhaglen lawn yn llwydiannus yn ei blwyddyn lawn gyntaf y llynedd. Neu fel tiwtor, profi’r wefr sawl tro o weld dysgwr yn torri trwodd a dod yn siaradwr Cymraeg.

Oes gennyt unrhyw gyngor i diwtoriaid?
Ymrowch i’r gwaith a chwiliwch drwy’r amser am ffyrdd o wella sut mae’r dysgwr yn dysgu!

Beth yw dy obeithion ar gyfer Canolfan y De Orllewin?
Ein gweld yn helpu llawer mwy i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru, wrth gwrs!

digwydd3ii.jpg