# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008
de-orll1.jpg  

Mae Steve Morris o Ganolfan Cymraeg i Oedolion y De Orllewin a Carwen Earles o Ysgol Gwyddor Iechyd Prifysgol Abertawe yn cynnal modiwl newydd sbon i helpu myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn nyrsys i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg. Cafwyd grant gan Gronfa Datblygu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddatblygu’r modiwl yn ogystal â llawlyfr a CD pwrpasol i gyd-fynd â’r sesiynau dysgu. Amcangyfrifir bod tua 15 – 18% o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddor Iechyd yn siaradwyr Cymraeg ac er mwyn diwallu anghenion y myfyrwyr hyn, mae’r Ysgol eisoes yn cynnig modiwl ymwybyddiaeth iaith a gwersi tiwtorial personol trwy gyfrwng y Gymraeg.  Rhoddir tiwtoriaid personol Cymraeg i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn ogystal â mentoriaid Cymraeg pan fyddan nhw’n gwneud eu hymarfer clinigol.  Mae modd gwneud 50% o’u modiwlau drwy gydol y rhaglen yn y Gymraeg.

Bydd y modiwl newydd sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd â Chanolfan Cymraeg i Oedolion y De Orllewin, yn ymwneud yn benodol â therminoleg gofal iechyd a senarios ymarfer clinigol er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cyd-destun clinigol. Mae’r modiwl yn agored i fyfyrwyr ar bob rhaglen israddedig gofal iechyd a rhai galwedigaethau cysylltiedig â gofal iechyd yn yr Ysgol. Y gobaith yn y dyfodol yw gwahodd myfyrwyr o’r Ysgol Feddygaeth a’r Adran Gwaith Cymdeithasol ar gyfer dysgu ar y cyd yn y maes hwn.  

O fewn darpariaeth gofal iechyd, mae sgiliau rhyngbersonol effeithiol yn hanfodol i hyrwyddo gofal cyfannol i gleifion.  Mae’r modiwl newydd hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y De Orllewin drafod a datblygu sgiliau gofal nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg.  Y gobaith yn y pen draw yw helpu siaradwyr Cymraeg yn ogystal â dysgwyr i fagu hyder a pharodrwydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle gofal iechyd.  Mae’r Ganolfan yn cydweithio ag adrannau eraill ar y campws ar hyn o bryd i ddatblygu modylau eraill fydd yn hwyluso ac yn datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.

 de-orll2.jpg