Noson Wobrwyo Blaenau Gwent 2011
gan Sarah Meek
Ar y 10fed o Fai, cynhaliwyd Noson Wobrwyo Blaenau Gwent yn Sefydliad Llanhiledd fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2011. Nod y noson oedd dathlu llwyddiant ein dysgwyr sy'n dilyn cyrsiau gwahanol drwy Addysg Gymunedol.
Cafwyd llawer o enwebiadau gan y tiwtoriaid eleni ar gyfer y Gymraeg a oedd yn wych! Tua hanner ffordd trwy'r noson, cafwyd canlyniadau'r Gymraeg, sef:
- Yn drydydd, daeth dysgwyr y dosbarth Mynediad 1 o Lyn Ebwy a gafodd eu henwebu gan eu tiwtor, Mavis Griffiths. Enillon nhw dystysgrifau canmoliaeth.
- Daeth Josie Thomas o'r dosbarth Sylfaen 2 ym Mrynmawr yn ail. Enillodd hi dystysgrif canmoliaeth uchel. Enwebwyd hi gan ei thiwtor, Sarah Meek.
- Enillydd y Gymraeg eleni oedd Lindsey James o'r dosbarth Mynediad 2 yn y Blaenau. Cafodd hi ei henwebu gan ei thiwtor, Mike Crump. Yn ôl Mike, mae Lindsey yn ddysgwraig sy'n ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill yn y dosbarth. Mae hi'n frwd iawn ac mae hi'n dangos llawer o angerdd tuag at yr iaith wrth iddi ddysgu. Mae ei chynnydd yn yr iaith eleni wedi bod yn wych a bydd hi'n sefyll ei harholiad Cymraeg cyntaf ym mis Mehefin.
Yn ogystal ag ennill y wobr am y Gymraeg, aeth Lindsey ymlaen i ennill y wobr fawr sef Dysgwr y Flwyddyn Blaenau Gwent - newyddion ffantastig! Llongyfarchiadau mawr i chi Lindsey!
Llongyfarchiadau i'r dysgwyr eraill hefyd am eu gwaith caled a'u llwyddiant eleni. Daliwch ati! Hoffwn i ddweud diolch i'r tiwtoriaid i gyd am gymryd yr amser i enwebu eu dysgwyr eleni. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus yn fawr iawn sy'n hynod bwysig mewn digwyddiadau fel hyn ac yn gyfle i ni ddangos bod ein dysgwyr yn bwysig iawn i ni hefyd!
Noson o Adloniant yng Nghwmni ‘Allan yn y Fan’
Cynhaliwyd noson o adloniant am ddim yn Neuadd Les Bryn Cendl ar yr 20fed o Fai er mwyn dathlu Wythnos Addysg Oedolion ym Mlaenau Gwent. Daeth dros 40 o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg i gael blas ar y diwylliant Cymreig.
Darparwyd yr adloniant gan ‘Allan yn y Fan’, band lleol a phoblogaidd sy'n enwog iawn am eu cerddoriaeth geltaidd o Gymru a'u lleisiau hyfryd! Roedd pob perfformiad yn llawn angerdd ac emosiwn wrth i Kate, Geoff, Linda, Meriel a Chris ganu caneuon ac alawon traddodiadol yn ogystal â chaneuon newydd a gwreiddiol sy wedi'u hysgrifennu gan aelodau'r band - band talentog iawn!!!
Dechreuodd y rhan gyntaf gyda'r band yn canu a rhoi gwybodaeth am hanes a chefndir yr alawon a'r caneuon gwahanol. Wedyn, gwelon ni Chris yn clocsio - ffantastig! Yn yr ail ran, cafodd pawb gyfle i ddawnsio a chael hwyl!
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd ac i'r band wrth gwrs. Dw i'n siwr y bydd pawb yn cytuno bod y noson yn llwyddiant mawr.