Noson Wobrwyo
ym Maenordy
Llancaiach Fawr
Tiwtor Cymraeg Y Flwyddyn 2011 yng Nghaerffili, Dave Hale, yn derbyn tlws oddi wrth y gyflwynwraig radio Beverley Humphreys mewn noson wobrwyo arbennig a gynhaliwyd ym Maenordy Llancaiach Fawr Fai 19eg fel rhan o ddathliadau Gŵyl Addysg Caerffili.
Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2011 oedd Charmain Thomas, sy’n astudio Sylfaen 1 yn nosbarth Dave yn Nhŷ Rhydychen, Rhisga.
Diwrnod y Dysgwyr Tŷ Rhydychen Rhisga
Trefnwyd Diwrnod y Dysgwyr yn Nhŷ Rhydychen, Rhisga ar y cyd rhwng Canolfan Iaith Gwent a Menter Caerffili, gyda staff y ddau sefydliad yn cyfrannu at y gweithgareddau. Nod y diwrnod yw darparu cyfle i ddysgwyr ymarfer ac ymestyn eu sgiliau iaith a hefyd i ddarpar ddysgwyr gael blas ar ddysgu’r iaith. Hysbysebwyd y diwrnod yn llyfryn Gŵyl Addysg Caerffili a ddosbarthwyd yn eang ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion a derbyniwyd nawdd ariannol oddi wrth NIACE Dysgu Cymru er mwyn cwrdd â’r costau. Dyma’r pedwerydd tro y cynhaliwyd Diwrnod i’r Dysgwyr yn Rhisga.
Roedd croeso i bobl o bob oed ac i deuluoedd ac roedd cyfle i bobl gael dysglaid, bisgedyn a rhoi cynnig ar chwarae gemau bwrdd - yn Gymraeg, wrth gwrs.
Atyniad arall i greu tipyn o sblash oedd y cyfle i ddysgu gwneud ‘bom’ ar gyfer y bath.
Nid pawb gafodd eu denu gan yr ‘Ysgol Fomiau’ ac roedd yn well gan eraill ddysgu mwy am yr adnoddau Cymraeg sydd ar gael ar y rhyngrwyd.
A beth am y bobl sy’n barod i ddechrau defnyddio’u Cymraeg at ddibenion eraill? Wel, darparwyd taith dywysedig o gwmpas yr amgueddfa ddiwydiannol sy’n rhannu’r un safle â Thŷ Rhydychen ar eu cyfer. Y gobaith oedd bachu’r rheiny a’u perswadio i fentro ar gwrs Hanes Lleol trwy gyfrwng y Gymraeg fydd yn cychwyn yn Nhŷ Rhydychen ym mis Mehefin.
Gyda siaradwyr Cymraeg o grŵp Canolfan Hamdden Rhisga yn galw heibio i gefnogi’r diwrnod hefyd, rhoddwyd cyfle i ddysgwyr gymysgu gyda siaradwyr iaith gyntaf.
Mae’r digwyddiad yn darparu tipyn o ‘ffenest siop’ i ddysgu Cymraeg yn yr ardal, a thrwy hynny y gobaith yw y bydd mwy o bobl yn dod at y Gymraeg o ganlyniad i Wythnos Addysg Oedolion.
Bwriedir parhau â’r ymgyrch i godi proffil dysgu Cymraeg yn yr ardal trwy drefnu presenoldeb ar faes Gŵyl y Caws Mawr dan gysgod Castell enwog Caerffili ddiwedd mis Gorffennaff.